Cefndir

Mae pwysigrwydd gwaith i’w weld yn nhrafodaethau polisi’r DU ynghylch ailgodi’n gryfach, codi’r gwastad a chodi cynhyrchiant. Mae gwella bywydau gwaith hefyd ar flaen y gad o ran polisïau a lansiwyd gan lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nod cyffredinol yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth (ASC) yw casglu data arolwg cadarn ar sgiliau a phrofiadau cyflogaeth pobl sy’n gweithio ym Mhrydain. Mae’r ASC yn rhan o gyfres o arolygon o weithwyr sy’n ymestyn yn ôl dros 35 mlynedd. Mae’r arolygon trawstoriadol hyn yn cynnig ffordd o gofnodi ac egluro’r newidiadau ym mhatrymau ansawdd swyddi a sgiliau dros amser.

 

Mae’r Athro Alan Felstead wedi bod yn aelod o dimau’r prosiect sy’n gyfrifol am bump o’r saith arolwg yn y gyfres ASC ac mae wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar gyfer yr arolygon a gynhaliwyd ers 2012. Mae’r gyfres yn rhan hanfodol o seilwaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol sydd wedi galluogi’r gymuned academaidd a llunio polisïau ehangach i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth mewn perthynas â gwaith, cyflogaeth a sgiliau ac sydd wedi bod yn sail i  lawer o gyhoeddiadau. Cydnabuwyd pwysigrwydd academaidd y gyfres ASC yn 2014 pan ddewisodd Gwasanaeth Data’r DU y gyfres i’w chynnwys yn y ‘casgliad a guradwyd’.

 

Is-brosiectau

 

 

Dogfennaeth, Setiau Data & Mwy

 

Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect hwn drwy ymweld â Thudalen Prosiect Ymchwil ac Arloesi’r DU.

 

UKRI - UK Research and Innovation Logo

 

 

 

 

Cewch ragor o wybodaeth yma

>