Nod y digwyddiad hwn yw mynd i’r afael â chwmpas a /neu derfynau Cronfa Her yr Economi Sylfaenol, lle ariannodd Llywodraeth Cymru 52 o brosiectau lleol a oedd yn anelu at hyrwyddo iechyd, cyfoeth neu les pobl a lleoedd yng Nghymru.

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, sydd â gofal am y rhaglen a bydd yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o safbwynt y llywodraeth.

Bydd Debbie Green yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd gan arweinydd cymdeithas dai.

Fel cynghorydd i weinidogion cenedlaethol a thimau prosiect lleol, mae’r Athro Julie Froud yn aelod o dîm WISERD ar haeniad dinesig ac atgyweirio sifil a bydd yn myfyrio ar arwyddocâd y Gronfa Her fel adnodd arloesedd cymdeithasol ac adnewyddu sylfaenol yng nghyd-destun Cymru ar ôl y pandemig.

Bydd yr Athro Kevin Morgan, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, yn cadeirio’r digwyddiad.

Gwahoddir y gynulleidfa i ymgysylltu â phob siaradwr mewn sesiwn Holi ac Ateb.