Cyflwynir gan Catherine Foster a Laura Arman

Bydd y seminar hon yn cyflwyno canfyddiadau diweddaraf Cyrch 9 yn Astudiaeth Aml-garfan ADDYSG WISERD (WMCS). Yn ystod haf 2021, ymatebodd bron i 1000 o bobl ifanc yn ysgolion uwchradd Cymru i ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys eu profiad o addysg yn ystod COVID-19, eu hymwybyddiaeth wleidyddol a’r graddau yr oedden nhw’n effro i hyn, yn ogystal â’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn rhoi cipolwg o’u hymatebion yn unol â’r themâu hyn.

 

Ebostiwch WISERD.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom