O dan fframwaith sefydliadol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) a lofnodwyd rhwng Llywodraethau Cymru a Gwlad y Basg, nod y prosiect ‘Cydweithrediad Cymru a Gwlad y Basg’ yw sefydlu cyfres o ddigwyddiadau.

Yn y cyfarfod ar-lein cyntaf hwn edrychwn ymlaen at gyflwyniadau gan:

•    Adolfo Morais, Is-Weinidog Prifysgolion ac Ymchwil
•    Kellie Beirne, Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

•    Miren Artaraz, Cyfarwyddwr Polisi Academaidd a’r Economi
•    Yr Athro Phil Brown, Awdur yr Adolygiad o Arloesi Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Gwaith yng Nghymru

•    Sara de la Rica, ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, cyfarwyddwr Sefydliad Iseak (UPV/EHU)
•    Yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SPARK, Prifysgol Caerdydd

Yn benodol, mae prosiect cydweithrediad Cymru a Gwlad y Basg yn cyflwyno dau brif nod:

1.    Rhannu arferion da rhwng Cymru a Gwlad y Basg o ran ymgysylltu â’r Brifysgol a chydweithredu rhwng Busnes + Prifysgol + Cymdeithas

2.    Paratoi’r ffordd i ddod i gytundeb ar gyfer rhaglen gyfnewid yn y flwyddyn academaidd 2022-2023.

 

Cynhelir y cyfarfod hwn ar Zoom

 

Cyflwynir y digwyddiad hwn ar y cyd gan WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru) a 4GUNE.

Os byddai gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn, cysylltwch â  WISERD.events@caerdydd.ac.uk