Foundational economy online series poster

Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd diddordeb cynyddol yn yr economi sylfaenol – y defnydd torfol o wasanaethau a nwyddau sylfaenol. Mae WISERD wedi ffurfio’r rhwydwaith economi sylfaenol, ac mae ein hymchwil yn ystyried yr economi sylfaenol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau, a gynhelir ar 8, 9 a 10 Medi, yn mynd i’r afael â chwestiynau allweddol sy’n codi o ystyried yr argyfwng Covid-19 presennol a’r ffyrdd y gall meddylfryd sylfaenol gyfrannu at adfer cymdeithasol ac economaidd.

 

Ffowndri Sylfaenol 2.0: adeiladu dyfodol cynaliadwy

8 Medi 2:00pm – 4:00pm (amser y DU)

Siaradwyr: Teis Hansen (Prifysgol Lund), Lars Coenen (Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Gorllewin Norwy), Julie Froud (Prifysgol Manceinion)

Bydd y digwyddiad cyntaf yn edrych ar arwyddocâd yr economi sylfaenol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd yr ail ddigwyddiad yn mynd i’r afael â’r ffordd y gall sefydliadau sifil yn y gymdeithas, megis elusennau, cymdeithasau tai a llunwyr polisïau, ddefnyddio syniadau economaidd amgen i weithio tuag at gyfiawnder economaidd a chymdeithasol yn sgil yr argyfwng presennol. Bydd ein digwyddiad olaf yn canolbwyntio ar Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, gan rannu enghreifftiau o fentrau polisi ymarferol ac arbrofion i drosglwyddo gwersi a ddysgwyd ac arfer da.

Sut gall pwyslais ar sectorau sylfaenol gyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol? A oes meysydd o weithgaredd economaidd a all symud ein hôl troed ecolegol i’r cyfeiriad cywir a chyfrannu at wella bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol? Bydd y seminar hwn yn trafod gwerthusiadau o feddwl sylfaenol ac yn ystyried potensial dulliau economi sylfaenol newydd (economi sylfaenol 2.0) i gyfrannu at les cenedlaethau’r dyfodol, i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau bioamrywiaeth.

 

Atebion sylfaenol a chyfiawnder cymdeithasol

9 Medi 2020 10:00am – 12:00pm (amser y DU)

Siaradwyr: Rachel Reeves (Canghellor Cysgodol Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog Cysgodol Swyddfa’r Cabinet) a Fabrizio Barca (cydlynydd Forum Disuguaglianze e Diversità a gweinidog gwladwriaeth yr Eidal gynt heb bortffolio ar gyfer cydlyniant tiriogaethol rhwng 2011 a 2013).

Wrth i wladwriaethau ymateb i argyfwng Covid-19 gyda pholisïau sy’n wahanol iawn i rai’r degawdau neo-ryddfrydol a’i rhagflaenodd, pa ddylanwad y gellir ei ddwyn ar y ffurfiau penodol y mae’r polisïau hyn yn eu cymryd? Sut y gall polisïau sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd a chyfiawnder cymdeithasol gael eu hyrwyddo gan fudiadau cymdeithasol a sefydliadau cymdeithas sifil? A yw safbwyntiau a pholisïau sylfaenol fel incwm sylfaenol cyffredinol a gwasanaethau sylfaenol cyffredinol ar fin dod yn brif ffrwd? Bydd y seminar hwn yn ystyried y materion hyn a’r ffyrdd y gall syniadau economaidd amgen ennill tyniant gwleidyddol yn yr argyfwng presennol.

 

Yr Economi Sylfaenol ar Waith: Lles ac adnewyddu’r economi

10 Medi 10:00am – 12:00pm

Siaradwyr: Lee Waters (Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth), Elin Hywel (Cwmni Bro) and Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi a datblygu’r economi sylfaenol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys buddsoddi mewn prosiectau arbrofol ledled Cymru trwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol gwerth £4.5m. Bydd y seminar hwn yn rhannu rhywfaint o’r prosiectau hyn ac yn trafod sut y gellir datblygu’r mentrau hyn drwy ledaenu a graddio arfer gorau. Bydd hefyd yn archwilio’r rhwystrau i’r prosiectau hyn a’u hwyluswyr a’u potensial i gyfrannu at les ac adnewyddu’r economi.