Cyfres Haf WISERD 2021


Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, roedd Cyfres Haf WISERD yn cynnwys pedwar digwyddiad ar-lein yn lle ein Cynhadledd Flynyddol arferol. Roedd y digwyddiadau hyn yn trin a thrafod rhai o feysydd ymchwil sefydledig a’r rheini sy’n datblygu o hyd yn WISERD, a lansiwyd dau rwydwaith ymchwil newydd, sef Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru a’r Rhwydwaith Lles.

I lansio ein Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru estynnon ni groeso i Dr Gwennan Higham, Prifysgol Abertawe, ar gyfer y prif anerchiad, sef ‘Ymfudo rhyngwladol yng Nghymru: cenedl noddfa mewn cyd-destun gelyniaethus’. Roedd y ddarlith yn ystyried cyflwr ymfudo rhyngwladol yng Nghymru yn yr 21ain ganrif. Ystyriodd y ddarlith y gwahaniaethau cynyddol rhwng polisïau integreiddio yng ngwledydd datganoledig y DU mewn cyferbyniad â pholisïau ‘cyd-destun gelyniaethus’ San Steffan. Yn benodol, roedd yn canolbwyntio ar ddysgu iaith, perthyn a dinasyddiaeth a’r potensial i feithrin diwylliant lletygarwch yng Nghymru.

Ar ben hynny, cynhalion ni ein Cystadleuaeth Posteri PhD flynyddol, o dan nawdd caredig Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru. Cafwyd gwobr ar gyfer y poster a’r cyflwyniad fideo buddugol.

Os nad oeddech chi’n gallu dod i’r digwyddiadau byw, gallwch chi wylio’r recordiadau.


Rhannu