Wedi’i gynnal ar y cyd gan Rwydwaith Ymchwil Tai Cymru WISERD, Canolfan Gydweithredol Tystiolaeth Tai y DU, Shelter Cymru a Llywodraeth Cymru.

Noddir y gynhadledd hon yn garedig iawn gan Pobl.

 

Ynglŷn â’r drafodaeth

Mae tai a digartrefedd yn uchel ar yr agenda wleidyddol yng Nghymru ac mae awydd am dystiolaeth dda i lywio polisïau gwell. Mewn byd lle mae pryderon ehangach ynglŷn â pholisïau’n cael eu heffeithio’n gynyddol gan newyddion ffug a gwybodaeth anghywir systematig, bydd Cynhadledd Ymchwil Tai Cymru 2020 yn arddangos gwaith ymchwil a gwerthusiadau o faterion tai cyfoes yng Nghymru, gan gynnig platfform ar gyfer myfyrio a chyfnewid gwybodaeth.

 

Ydych chi am gyflwyno eich ymchwil?

Gwahoddir ymchwilwyr i gyflwyno crynodebau am unrhyw bwnc tai a allai cwestiynu, llywio neu gefnogi polisïau ac arferion tai yng Nghymru. Rydym yn croesawu ymchwil a gynhelir y tu allan i Gymru ond dylai gynnig gwersi ar gyfer polisïau ac arferion yng Nghymru.

 

 

Dylid cyflwyno crynodebau drwy ebost I WISERD.events@caerdydd.ac.uk erbyn 30 Medi 2019 ac ni ddylent fod yn fwy na 250 gair. Bydd penderfyniadau ynglŷn â chrynodebau’n cael eu gwneud yn brydlon.

Daw’r diwrnod i ben gyda derbyniad diodydd a fydd yn gorffen am 17:30 pm.

 

Ydych chi am ddod?

Bydd y gynhadledd hon yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol awdurdodau lleol ym maes tai, cynrychiolwyr cymdeithasau tai a sefydliadau trydydd sector, ymchwilwyr gwleidyddol, academyddion, a myfyrwyr ym maes tai a meysydd cysylltiedig. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd cinio ar gael.

 

Cyflwyniadau Cynadleddau