ESRC Festival of Social Science

Pa rinweddau ydych chi’n chwilio amdanynt mewn ffrind? Gallai fod yn ddiddordeb cyffredin, fel angerdd at bêl-droed. Fel arall, gallai fod yn synnwyr digrifwch da, agwedd gyffredin at fywyd, neu ddiddordeb ar y cyd, fel cael eich magu yn yr un pentref. Gallai rhinweddau eraill sydd o bwys i chi gynnwys caredigrwydd, didwylledd a theyrngarwch.

Dros y chwe blynedd ddiwethaf, mae prosiect addysg WISERD wedi bod yn olrhain bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r ymchwilwyr wedi cynnal arolwg blynyddol o dros 1,000 o bobl ifanc bob blwyddyn, gan ddilyn pob un ohonynt o ddechrau’r ysgol gynradd ym mlwyddyn 7, hyd at adael yr ysgol (o flynyddoedd 11 i 13). Diben yr arolwg yw cynyddu ein dealltwriaeth o fywydau a phrofiadau addysgol pobl ifanc yng Nghymru.

Yn y digwyddiad hwn, bydd ymchwilwyr yn esbonio ychydig yn fwy am yr arolwg i bobl ifanc o Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, yn ogystal â thrafod yr hyn y mae’r arolwg wedi’i ddangos am y rhinweddau y mae pobl ifanc yn chwilio amdanynt yn eu cyfeillgarwch ag eraill.

Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hefyd yn addysgu pobl ifanc am y dulliau y mae gwyddonwyr cymdeithasol yn eu defnyddio, a sut y caiff data arolwg a gesglir ohonynt ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i lywio ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. Yn ogystal ag ymgysylltu pobl ifanc ag ymchwil amdanynt eu hunain, gallai’r digwyddiad hwn annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y gwyddorau, yn y dyfodol.