ESRC and ESRC Festival of Social Sciences logos

Bydd y digwyddiad yn cyflwyno mapio data di-dâl WISERD a’u hofferyn chwilio a darganfod data, WISERD DataPortal.

Mae’r Porthol Data yn caniatáu i ddefnyddwyr ddarganfod data cymdeithasol, demograffig ac economaidd cysylltiedig â Chymru.  Mae hyn yn cynnwys data o amrywiaeth o ffynonellau, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru, a disgyblaethau megis iechyd, addysg, cyflogaeth a data demograffig o’r Cyfrifiad.

Unwaith y byddwch wedi cael hyd i’r data perthnasol, gallwch ddefnyddio’r Porthol Data i’w mapio, neu i’w lawrlwytho er mwyn eu dadansoddi ymhellach.

Bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi sut mae defnyddio’r Porthol Data i gyrchu a mapio data cymdeithasol ac economaidd a ddarparwyd yn rhydd ar ffurf ffrydiau data gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.  Byddwch hefyd yn dysgu sut mae defnyddio’r Porthol Data i fapio eich data eich hun, neu eu cyfuno â data eraill.  Fe awn ni drwy gyfres o astudiaethau achos, i roi syniad i chi sut mae eraill wedi defnyddio’r Porthol Data, cyn rhoi cyfle i chi weithio trwy ystod o sefyllfaoedd lle gallai’r Porthol Data fod yn ddefnyddiol, dan arweiniad y cyflwynwyr.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdy yn gallu rhoi adborth ar y Porthol Data a sut gellid ei wella.

Mae croeso i chi ddod â’ch data eich hun gyda chi.  Gallai hynny olygu unrhyw beth o daenlen syml sy’n cynnwys gwybodaeth am aelodau neu ddefnyddwyr gwasanaeth i ddata ymchwil mwy cymhleth. Dylai eich data gynnwys nodweddion adnabod daearyddol (e.e. codau post neu enwau ardaloedd/codau daearyddol), a fydd yn golygu bod modd eu defnyddio gyda’r Porthol Data.  Bydd amser ar ddiwedd y gweithdy i un o’n cyflwynwyr gynnig cyngor ac arweiniad ar ddefnyddio eich data gyda’r Porthol Data.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn cyrff sector gwirfoddol neu gymdeithas sifil, llunwyr polisi ac ymchwilwyr.

Cymorth un-i-un gyda phrosiectau ymchwil

Ar ôl y gweithdy hwn, bydd cyfranogwyr o gyrff trydydd sector yn gallu gwneud cais am gymorth di-dâl, un-i-un, er mwyn parhau i ddefnyddio’r Porthol Data ar gyfer darn o waith ymchwil.  Rhaid i’r prosiect fod yn gysylltiedig â Chymru a defnyddio ffynonellau data sydd eisoes yn bodoli.  Gall WISERD ddarparu cymorth a hyfforddiant ar ddefnyddio’r Porthol Data, cyngor ar y mathau o data sydd ar gael a sut gellir eu defnyddio, help a chyngor ar fapio a dadansoddi sylfaenol, a chymorth gyda data.

Rhaglen

2:00pm – Cyflwyniad/Mewngofnodi

2:10pm – Cyflwyniad/Arddangosiad byw

2:40pm – Cyflwyniadau astudiaethau achos

2:50pm – Egwyl

3:00pm – Gweithdy Strwythuredig: Senarios

3:30pm – Gweithdy ‘chwarae’ gyda’r Porthol Data

3:50pm – Sesiwn Holi ac Ateb ac adborth

4:00pm – Cloi