Rydym yn falch o’ch gwahodd i lansiad gwefan newydd a luniwyd i gefnogi gwaith llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru. Mae Adnodd Myfyrdodau Llywodraethwyr Ysgolion yn defnyddio ymchwil* a gynhaliwyd gan Dr Nigel Newton (WISERD, Prifysgol Caerdydd) ac fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â Gwasanaethau Governor Cymru. Nod y wefan yw cefnogi trosglwyddo gwybodaeth ymhlith llywodraethwyr ysgolion, hwyluso rhannu arfer da a chaniatáu i safbwyntiau llywodraethwyr gael eu clywed.

 

Yn y lansiad byddwn yn rhannu rhai o ganfyddiadau’r ymchwil, a arweiniodd at ddatblygiad yr adnodd, cyflwyno’r wefan a thrafod rhai o’r ffyrdd y gallai cyrff llywodraethu ysgolion ei ddefnyddio.

 

* Ymchwil wedi’i ariannu gan HEFCW