Y digwyddiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o dri gweithdy ‘Sicrhau Effaith y Tu Hwnt i Ymchwil’ a drefnwyd gan Rwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru WISERD.

Nod y gweithdy hwn yw cynnig yr adnoddau sydd eu hangen ar academyddion ar bob cam o’u gyrfa i drosglwyddo eu harbenigedd a’u gwybodaeth o’r byd academaidd a’r gynulleidfa academaidd yn unig i’r gymuned polisi ac ymarfer. Hoffem i’r rhai sy’n cymryd rhan gael gwell syniad o sut i wneud y canlynol:

•    nodi a rhyngweithio â llunwyr polisïau a rhanddeiliaid
•    mabwysiadu dull effeithiol o ymdrin â materion cyhoeddus
•    datblygu a chyfleu negeseuon clir ac ysgogol i lunwyr polisïau a rhanddeiliaid

Bydd pob un o’r tri siaradwr gwadd yn sôn am eu sector er mwyn annog academyddion i ystyried sut y gallai eu hymchwil fod yn berthnasol i ymarferwyr a llunwyr polisïau ymfudo. Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan Dr Catrin Wyn Edwards o Brifysgol Aberystwyth.

•    Yr Athro Sergei Shubin, Athro a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Polisi Ymfudo ym Mhrifysgol Abertawe
•    Anne Hubbard, Rheolwr, Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru
•    Hannah Johnson, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfnewid Gwybodaeth, Senedd Cymru
Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal dros Zoom.