Gyflwynwyd gan Giada Lagana and Daniel Wincott

 

Mae’r erthygl hon yn cyflwyno ymagwedd strategol-berthynol o ddadansoddi metalywodraethu is-wladwriaethol yng nghydweithrediad tiriogaethol Iwerddon-Cymru. Nod y dull arfaethedig yw goresgyn dau wendid mawr yn y llenyddiaeth ar gydweithrediad tiriogaethol. Nid yw astudiaethau presennol ar ranbartholdeb, cydweithredu trawsffiniol a/neu diriogaethol yn gadael fawr o le i rôl strategol awdurdodau is-wladwriaeth a rhwydweithiau preifat. At hynny, maent fel arfer yn dadansoddi strategaeth neu strwythur ar wahân. Bydd yr hewristig strategol-berthynol, a ddatblygwyd gan Bob Jessop, yn caniatáu i’r erthygl hon archwilio symbyliad ymwybodol, ffurfio a siapio gofodau rhyngranbarthol trwy ffactorau is-genedlaethol. Bydd yn archwilio’r strategaethau a gymerir ar wahanol lefelau i’r cyfleoedd gwahaniaethol a’r cyfyngiadau y mae’r cyd-destun rhyngranbarthol yn eu creu. Gan ddefnyddio rhaglen INTERREG Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd (UE) fel enghraifft eglurhaol, bydd y papur hwn yn ymchwilio i lwyddiannau a methiannau awdurdodau is-wladwriaeth Iwerddon-Cymru wrth lunio cydweithrediad yn weithredol. Bydd yn ystyried cyd-destun ehangach dadleuon a datblygiadau BREXIT yn y Deyrnas Unedig (DU), Gweriniaeth Iwerddon (ROI) a’r UE a’u canlyniadau pellgyrhaeddol ar ddyfodol cydweithredu o’r fath. Mae’r creu, y dimensiwn daearyddol, y blaenoriaethau thematig a’r mecanwaith llywodraethu yn ymddangos yn y cyd-destun hwn fel gwrthrychau allweddol metalywodraethu. Yn benodol, bydd y papur yn dadlau dros ailystyried y rhyngweithio rhwng strategaeth a strwythur mewn cyd-destunau tiriogaethol aml-lefel.

 

Ebost wiserd.events@cardiff.ac.uk gyfer y ddolen Zoom