Ymchwil gymdeithasol yn ystod y pandemig a thu hwnt

Cynhelir y seminar amser cinio yr wythnos hon gan Ceri Davies, NatCen

Bydd y seminar yn agor trafodaeth gyda chyfranogwyr am oblygiadau tymor byr a chanolig cynllunio a chynnal ymchwil gymdeithasol yn y pandemig presennol.  Mae llawer ohonom yn gweld ein hunain mewn dyfroedd dieithr ac yn gorfod gwneud penderfyniadau synhwyrol gyda gwybodaeth gyfyngedig ac absenoldeb sicrwydd; gwaith maes, moeseg, canfyddiadau… Rydym yn wynebu fwyfwy o agweddau nad ydynt yn hysbys am effaith y pandemig ar sut y byddwn yn cyflawni ymchwil yn y dyfodol –  yn fethodolegol ond hefyd pa gwestiynau rydym yn canolbwyntio arnynt wrth i ni fynd tuag at ‘normal newydd’.

Os hoffech ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y wybodaeth Zoom.