WISERD yn cynnal Anthropolegau Cymdeithasol y Cymry: Y Gorffennol a’r Presennol


Delegates listening to presentation at Social Anthropologies of the Welsh: Past and Present symposium

Cynhaliodd WISERD ddarlith gyda’r nos a symposiwm undydd ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gyda’r Sefydliad Anthropolegol Brenhinol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion.

Roedd Anthropolegau Cymdeithasol y Cymry: Y Gorffennol a’r Presennol yn edrych ar ddatblygiad anthropoleg gymdeithasol yng Nghymru o safbwyntiau ysgolheictod cenedlaethol ac ymgysylltu rhyngwladol. Daeth y digwyddiad ag academyddion a’r rheiny sy’n ymddiddori yn hanes Cymru, tarddiad a datblygiad Cymru gyfoes ac astudiaethau cymunedol at ei gilydd.

Traddodwyd y ddarlith gyhoeddus nos Fercher, ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, gan yr Athro Fonesig Marilyn Strathern, FBA a Chymrawd Anrhydeddus, Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Prifysgol Caergrawnt), ar ‘Iaith Perthynas: Ymrwymiad Anthropoleg i Gymariaethau’.

Historical photos from the Royal Anthropological Institute on display during the symposium

Y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol sydd wedi cyflwyno’r ffotograffau hanesyddol sydd i’w gweld yn ystod y symposiwm.

Dechreuodd y symposiwm undydd drwy ystyried proto-anthropoleg Gerallt Gymro ac aeth ymlaen i olrhain ymddangosiad math penodol o anthropoleg Gymreig. Ymddangosodd diwylliant gwerin a thraddodiadau llafar, iaith a hunaniaeth, cerddoriaeth a chrefydd fel themâu pwysig drwy gydol y drafodaeth ar anthropoleg gymdeithasol Cymru yn y gorffennol. Bu’r symposiwm hefyd yn edrych ar rôl ysgolheigion Cymru, megis Iorwerth C. Peate, William Jones, ac Alwyn D. Rees.

I ddilyn hyn, cafwyd ystyriaeth o anthropoleg gymdeithasol fodern a chyfoes yng Nghymru lle defnyddiwyd astudiaethau cymunedol i edrych ar faterion yn ymwneud ag alltudiaeth, llafur a lles, iaith a hunaniaeth. Daeth y symposiwm i ben gyda’r prif gyflwyniad ar ddosbarth, cymuned, anheddiad a symudedd yn ne Cymru ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol gan yr Athro Chris Hann, anthropolegydd Cymreig sydd bellach yn Gyfarwyddwr yn Sefydliad Max Planck ar gyfer Anthropoleg Gymdeithasol, Halle, yr Almaen.

Cynullwyd y symposiwm gan yr Athro Emeritws W. John Morgan o WISERD. Dywedodd: “Mae anthropoleg gymdeithasol y Cymry wedi’i hesgeuluso ers blynyddoedd lawer, ynghyd â chyfraniad academyddion o Gymru i’r pwnc yn fwy cyffredinol. Bu’r papurau rhagorol rydym ni wedi’u clywed yn ailedrych ar yr hyn a wnaed yn y gorffennol gan ddangos yr hyn sy’n bosibl nawr ac yn y dyfodol.

“Gyda lwc bydd y symposiwm â’i ddeilliant ysgolheigaidd yn adfywio ymchwil ac addysgu anthropolegol yng Nghymru, gan gynnwys cymharu gyda diwylliannau a chymunedau eraill.” Disgrifiodd yr Athro Fonesig Marilyn Strathern, yr oedd ei darlith yn pwysleisio’r thema hon, y symposiwm fel ‘gorchest!’

Caiff papurau’r symposiwm a olygir gan W. John Morgan a Fiona Bowie, eu cyhoeddi yn Royal Anthropological Institute’s Country Series, Sean Kingston Publishing, Llundain.


Rhannu