Crynodeb
Mae Cymru yn unigryw oherwydd bod ganddi blatfform digidol cenedlaethol ar gyfer addysgu a dysgu ar-lein – Hwb (https://hwb.gov.wales/). Mae hyn yn golygu bod bron pob plentyn mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn mewngofnodi ac yn defnyddio Hwb i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu a ddarperir iddynt gan ysgolion ac athrawon. Bydd y prosiect hwn yn cael mynediad unigryw at ddata a gasglwyd trwy’r Hwb a all roi cipolygon amhrisiadwy ar y defnydd o ddysgu digidol yn ystod pandemig COVID-19. Bydd yr astudiaeth yn ceisio ateb pedwar prif gwestiwn:

•    Sut mae patrymau dysgu digidol yn ôl math o ysgol a daearyddiaeth wedi newid oherwydd pandemig COVID-19?

•    Pa anghydraddoldebau mewn dysgu digidol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig COVID-19?

•    Beth all data Hwb ddweud wrthym am ddysgu gartref yn ystod pandemig COVID-19?

•    Sut y gellir defnyddio data Platfform Hwb i roi diweddariadau ‘byw’ i Lywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu eu cynllun parhad dysgu?