Mae’r prosiect hwn ar hyn o bryd yn ystyried gwerth posibl dadansoddi patrymau rhithwir o ran trefn a symudiadau undebau llafur, ac, yn benodol, cyfraniad y cyfryngau cymdeithasol at ailraddio undebaeth lafur. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau rhithwir mudiad yr undebau llafur â mathau eraill o actifiaeth gymdeithasol a gwleidyddol, ynghyd â’r ffurfiau rhithwir ar drefnu ac ymgynnull undebau llafur, sydd wedi’u gwreiddio mewn safleoedd ymgynnull lleol penodol. Yn y cyd-destun hwn, rydym ar hyn o bryd yn dilyn presenoldeb undebau llafur ar Twitter mewn perthynas â’r Bil Diwygio Undebau Llafur #TUBill.

Y Bil Diwygio Undebau Llafur a’r Cyfryngau Cymdeithasol: #TU Bill

Mae’r delweddau isod yn gipluniau o sgyrsiau Twitter sy’n cynnwys yr hashnod ‘TUBill’. Mae pob fertig neu nod yn y rhwydwaith yn gyfrif Twitter unigol (a gynrychiolir yn yr achosion hyn gan ddelwedd proffil y defnyddiwr). Mae’r ymylon (cysylltiadau rhwng y fertigau), mewn gwyrdd yn bennaf, yn gyfeiriadau neu’n aildrydariadau. Mae ymylon coch yn llai o ran nifer ac maent yn cynrychioli ymatebion i drydariadau. Mae hwn yn batrwm arferol ar Twitter, lle cyfeirio ac ail-drydar yw’r ffurfiau mwyaf cyffredin o ryngweithio. Mae’r clwstwr o fertigau digyswllt yng nghornel chwith isaf y rhwydweithiau yn drydariadau nad ydynt yn ymatebion, yn gyfeiriadau nac yn aildrydariadau. Mae nodweddion gweledol y rhwydweithiau, fel grwpiau amlwg o fertigau, yn ei gwneud yn haws cael mewnwelediad cyflym i adegau allweddol o’r sgwrs.

Ar 28 Ionawr 2016, daliwyd 3,085 o ddefnyddwyr Twitter gwahanol yn y casgliad, a gynhyrchodd 8,465 o gysylltiadau. Mae’r patrymau clystyru yn y rhwydweithiau yn ganlyniad algorithm sy’n nodi grwpiau o ddefnyddwyr sydd â chysylltiad mwy dwys. Yn achos sgwrs Twitter fel hon, bydd y clystyrau hyn fel rheol yn gynnyrch nifer fawr o ddefnyddwyr yn ail-drydar rhywbeth gan ddefnyddiwr arall. Mae’r defnyddwyr hyn sy’n cael eu haildrydar yn aml yn tueddu i fod yn unigolion neu sefydliadau amlwg fel y TUC, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC Frances O’Grady, undebau llafur fel Unite, neu wleidyddion. Mae’r clystyrau wedi’u gosod yn eu blychau eu hunain, sydd wedi’u labelu â rhestr o’r defnyddwyr y cyfeirir atynt fwyaf yn y grŵp hwnnw. Gellir cyfrifo metrigau canologrwydd eraill sy’n meintioli dangosyddion o bwysigrwydd mewn rhwydweithiau fel y rhain, ac mae’r rhain yn cael eu dylanwadu gan ddemograffeg fel nifer y dilynwyr, neu nifer yr aildrydariadau/cyfeiriadau.

Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnig darlun i ni o sut mae sgwrs Twitter ynghylch pwnc penodol yn newid dros amser a phwy sy’n ddylanwadol o ran ysgogi’r drafodaeth hon. Gellir rhoi newidiadau o’r fath yn eu cyd-destun drwy archwilio, yn yr achos hwn, yr adegau allweddol yn amserlen y Bil Diwygio Undebau Llafur wrth iddo fynd trwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Yn ogystal, ynghyd â nodi’r rhan y mae pobl a sefydliadau amlwg yn y maes hwn yn ei chwarae, mae’r rhwydweithiau hefyd yn ei gwneud yn bosibl i ni weld sut a phryd y mae’r sgwrs hon yn denu defnyddwyr Twitter ‘bob dydd’ ac yn cael effaith arnynt.

Defnydd o’r hashnod #TUBill ar Twitter.

Image showing social media analysis.

Image showing social media analysis.

Image showing social media analysis.