Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn seiliedig ar ymchwil WISERD wedi’i gyhoeddi gan yr Athro Judith Marquand, Kate O’Sullivan a Dr Sioned Pearce o Brifysgol Caerdydd.
Mae ‘Ffactorau sy’n dylanwadu ar ymgysylltiad cymunedol a lleol ag ynni adnewyddadwy yng Nghymru’yn seiliedig ar sgyrsiau gyda phobl sy’n cymryd rhan yn uniongyrchol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol a phrosiectau arbed ynni. Mae’n amlinellu’r problemau a ganfuwyd gyda’r prosiectau, ac yn nodi mesurau i leihau’r problemau hyn.
Pwysleisiodd yr ymchwil faint o amser a sgiliau arbenigol sy’n ofynnol i wireddu prosiect cymuned leol, a chanfod fod sicrhau cyllid yn llai o broblem nag y tybir yn aml. Amlygodd yr ymchwil hefyd bod dealltwriaeth y cyhoedd o ynni adnewyddadwy yn annigonol, ac ambell dro bod diffyg diddordeb gan yr awdurdodau lleol, er gwaethaf y potensial o gynhyrchu cynnydd sylweddol mewn refeniw yn yr hir dymor.
Mae’r adroddiad yn amlinellu rhai atebion ymarferol ar gyfer codi proffil prosiectau ynni adnewyddadwy ac arbed ynni, gan gynnwys yr angen i wneud gwell defnydd o’r offer sydd eisoes ar gael i ni, fel fforymau presennol a deunyddiau addysgol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), hefyd wedi’u dynodi fel cyfle i wneud ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni yn elfen benodol o wella lles yng Nghymru.
Yn ddiweddar, dewiswyd Prifysgol Caerdydd fel y prif ganolfan ar gyfer ymchwil gwerth £5 miliwn i archwilio sut y gallwn fyw’n wahanol i gyflawni toriadau allyriadau cyflym a pellgyrhaeddol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r adroddiad hwn yn darparu ymateb amserol i rai o’r cwestiynau ynghylch sut y gallai hyn weithio ar lefel gymunedol a lleol, os gallwn addasu a datblygu ein cynlluniau i ddiwallu anghenion y rhai sy’n barod i’w cefnogi.
“Wind Turbines” by Wessex Archaeology is licensed under CC BY-NC 2.0