Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn rhychwantu meysydd economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a’r gwyddorau gwleidyddol, sydd wedi’u grwpio yn ôl y themâu isod. Mae rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau ymchwil isod, hefyd.

WISERD yw cartref Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD – Haeniad Dinesig ac Atgyweirio Sifil sy’n cael ei chyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Dyma’r trydydd dyfarniad ariannol o bwys sydd wedi’i roi, ac mae’n dilyn y Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil a gafodd ei chyllido’n flaenorol.

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol a faint ohoni sy’n cael ei gwneud, yng Nghymru a thu hwnt, er budd polisïau ac ymarfer ar draws ystod o sectorau a chymunedau.