Mae Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn sefydliad ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol cenedlaethol. Rydym wedi ein dynodi gan Lywodraeth Cymru’n ganolfan ymchwil genedlaethol. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, mae ein hymchwil yn cwmpasu economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a gwyddoniaeth wleidyddol.

Rydym yn gydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe – yn cydweithio i wella safon a maint ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn effeithio ar newid drwy ddylanwadu ar ddatblygiad polisi ac arfer ar draws ystod o sectorau.

Mae WISERD hefyd yn cynnal ADR Cymru (Administrative Data Research Wales) – sef cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ADR Cymru yn rhan o ADR UK (Administrative Data Research UK) a ariennir yn rhannol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

About Us