Diwygiwyd: Rhagfyr 2017

1. Cyd-destun

Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru ac yn deddfu na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ar hyn o bryd mae pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn ddarostyngedig i Gynlluniau Iaith Gymraeg, ond cyn hir bydd Safonau’r Gymraeg yn eu disodli (Ebrill 2018). Mae gan y prifysgolion partner sy’n ffurfio WISERD Gynlluniau Iaith Gymraeg unigol eu hunain, sy’n datgan pa wasanaethau fydd yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg a sut a phryd y byddant ar gael. Mae WISERD yn gweithredu o fewn fframwaith y cynlluniau hyn ac mae’n ddarostyngedig i Gynllun Iaith Gymraeg presennol y gwahanol brifysgolion partner.

2. Nodau

Gweithreda WISERD Polisi Iaith Gymraeg dyluniwyd er mwyn:

  • hybu ymwybyddiaeth o fewn WISERD am egwyddorion Mesur y Gymraeg a’r Safonau a fydd yn dilyn
  • amlygu’r ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud gan y sefydliadau partner yn eu Cynlluniau Iaith
  • pennu mesurau ar gyfer gweithredu’r Cynlluniau Iaith yng ngweithgareddau WISERD
  • annog arferion gorau o ran defnydd o’r Gymraeg wrth gyfathrebu â sefydliadau eraill a’r cyhoedd yng Nghymru 

3. Gweithgareddau WISERD

Menter ar y cyd rhwng pum sefydliad yw WISERD, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cynnwys rheoli a rhannu data ymchwil gwyddorau cymdeithasol, cynnal prosiectau ymchwil, datblygu a gwerthuso polisi, yn ogystal ag adeiladu capasiti. Mae WISERD yn ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadau, cynulleidfaoedd a defnyddwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yng Nghymru a’r tu hwnt. Glyna WISERD at bolisïau ei bump sefydliad mewn cysylltiad a’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar draws ei weithgareddau i gyd. 

4. Mesurau penodol

  • Llofnodion E-byst
  • Cyhoeddusrwydd a Marchnata
  • Gwefan
  • Datganiadau i’r wasg
  • Digwyddiadau
  • Ymchwil
  • Cyhoeddiadau
  • Recriwtio
  • Hyfforddiant a Datblygu Capasiti
  • Cyfieithu 

5. Monitro

Swyddog Cyswllt Allweddol: Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Gweithrediaeth WISERD fydd â’r cyfrifoldeb am adolygu a monitro Polisi’r Gymraeg yn flynyddol. Bydd yn ei ymestyn a’i ddiwygio yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod gweithgareddau yn gyson â Chynlluniau Iaith y sefydliadau partner. 

Cyfeirnodau

Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Aberystwyth (2014)

Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor (2013)

Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Caerdydd (2014)

Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Abertawe (2011)

Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol De Cymru (2013)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/section/1/enacted/welsh

Comisiynydd y Gymraeg

Safonau’r Gymraeg

Swyddogion Cyswllt Allweddol WISERD

Uwch Weinyddydd WISERD: Tina Woods – woodst1@caerdydd.ac.uk

Swyddog Cyfathrebu WISERD: Cadan ap Tomos – WISERD.comms@caerdydd.ac.uk

Swyddog Digwyddiadau WISERD: Jane Graves – wiserd.events@caerdydd.ac.uk

Cyfeiriadur o staff WISERD sy’n siarad Cymraeg (Tachwedd 2017

Paul Chaney (Cyd-Gyfarwyddwr) Prifysgol Caerdydd: ChaneyP@caerdydd.ac.uk / 029 20874459

Stephanie Jones – (Myfyriwr PhD) – Prifysgol Bangor – soue15@bangor.ac.uk

Rhys Jones – (Athro) – Prifysgol Aberystwyth – raj@aber.ac.uk /+44 (0) 1970 622594

Ian Rees Jones (Cyfarwyddwr) Prifysgol Caerdydd: JonesIR4@caerdydd.ac.uk / 029 20876662

Sioned Pearce (Cydymaith Ymchwil) Prifysgol Caerdydd: PearceS11@caerdydd.ac.uk / 029 20879338

Rhian Powell – ( Myfyriwr PhD) – Prifysgol Caerdydd – PowellRE3@cardiff.ac.uk

Elin Royles – Uwch Ddarlithydd -Prifysgol Aberystwyth – ear@aber.ac.uk

Cadan ap Tomos (Swyddog Cyfathrebu WISERD): ApTomosC@cardiff.ac.uk / 029 2087 002