Agor opsiynau ffurfweddu data

Ni fydd ein gwefan yn storio nac yn casglu data personol oni bai bod ein defnyddwyr yn gwybod am hynny ymlaen llaw ac yn rhoi caniatâd.

Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ar gyfer y safle, efallai y gofynnir ichi a ydych yn dymuno derbyn unrhyw ohebiaeth bellach gan WISERD. Bydd WISERD yn sicrhau bod yr holl ddata personol a roddir yn cael ei gadw mor ddiogel ag y bo modd, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Data

Nid yw WISERD yn gwerthu nac fel arall yn trosglwyddo unrhyw ddata personol i gwmnïau masnachol neu sefydliadau eraill, ac eithrio ystadegau gwe (gweler isod) sy’n cael eu cadw a’u rheoli gan gwmni trydydd parti (Google).

Briwsion ac ystadegau’r we

Defnyddir briwsion i gasglu ystadegau cyffredinol (nid personol) at ddibenion ystadegau defnydd o’r wefan. Ni ddefnyddir briwsion i gipio neu storio gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall.

Mae gwefan WISERD yn defnyddio meddalwedd dadansoddi sy’n cael ei chynnal ar y we. Mae’r rhain yn wasanaethau wedi’u cynnal sy’n cael eu darparu a’u rheoli gan gwmni allanol. Google sy’n darparu meddalwedd dadansoddi’r we a gynhelir ar gyfer WISERD.

Defnyddir y wybodaeth at ddibenion gwerthuso defnydd o’n gwefan, gwella profiad defnyddwyr o’n gwefan a llunio adroddiadau ar weithgaredd y wefan.