Gwefan hwb PrOPEL yn lansio


Office workers

Yr wythnos hon lansiodd y Ganolfan Deilliannau Cynhyrchedd Ymarfer, Ymgysylltu a Dysgu yn y Gweithle (PrOPEL) ei gwefan, yn cynnwys cyfraniadau gan staff WISERD.

Mae’r Athro Alan Felstead a Rhys Davies yn rhan o’r Ganolfan Deilliannau Cynhyrchedd Ymarfer, Ymgysylltu a Dysgu yn y Gweithle (ProPEL), prosiect £1.95 miliwn, a gefnogir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae’r Ganolfan yn archwilio arferion gweithle sy’n cyflenwi gwaith ansawdd uchel, diddorol ac sy’n cyfoethogi perfformiad a chynhyrchedd busnes. Bydd gwefan PrOPEL yn cynnig llwyfan i rannu cyngor defnyddiol, syniadau a gwersi ymarferol i sefydliadau, a’r cyfan ar sail yr ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf.

Mae’r fenter dair blynedd, dan arweiniad Ysgol Busnes Ystrad Clud, yn cynnwys ymchwilwyr o saith sefydliad, ynghyd â’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Lleolir y Ganolfan PrOPEL yng Nghymru yn WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol gyda chefnogaeth ei chysylltiadau ag Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’r wefan newydd yn cynnwys deunydd o WISERD a Phrifysgol Caerdydd, gan gynnwys:

–    Pa mor dda yw eich swydd? – hyrwyddo cwis howgoodismyjob.com yr Athro Alan Felstead sy’n gadael i bobl ymchwilio sut mae eu swydd yn cymharu â swyddi pobl eraill.

–    Pa mor uchel yw aelodaeth o undebau lle’r ydych chi’n byw? Defnyddio offeryn UnionMaps WISERD sy’n cyflwyno amcangyfrifon o aelodaeth o undebau mewn ardaloedd bychain a chwmpas cydgytundebau – elfen bwysig wrth fesur ansawdd swyddi.

–    Disability Talking, ffilm fer a gynhyrchwyd gan yr Athro Melanie Jones a’r Athro Victoria Wass ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n tynnu ar brofiadau pedwar gweithiwr sy’n disgrifio’r rhwystrau a wynebwyd ganddyn nhw yn y gweithle a’r gefnogaeth oedd ar gael iddyn nhw fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.

Dywedodd yr Athro Graeme Roy, Cyfarwyddwr Canolfan PrOPEL: “Nod y fenter gyffrous newydd hon yw hybu cynhyrchedd y DU drwy helpu busnesau i gynllunio ac adeiladu gweithleoedd mwy effeithiol.  Bydd gwell gweithleoedd yn arwain nid yn unig at gynhyrchedd uwch, mwy o swyddi a llewyrch ond bydd hefyd yn gwella llesiant gweithwyr ar draws y DU.

Roedd y materion hyn yn bwysig cyn pandemig COVID-19 ond mewn cyfnod o argyfwng economaidd, mae rôl gwaith ansawdd uchel, cynhyrchiol, yn fwy hanfodol fyth. Mae adeiladu economi hynod gynhyrchiol sy’n rhoi gwerth ar rôl y gweithwyr yn amcan allweddol i lawer yn y cyfnod ymadfer.

Daw’r Ganolfan â llawer o ymchwilwyr blaenllaw y DU yn y maes hwn ynghyd. Bydd yn arddangos yr ymchwil a’r ymarfer gorau diweddaraf ac yn cynnig gwersi ymarferol, pecynnau cymorth a ffyrdd newydd o wneud pethau y gall busnes ddysgu ganddynt.”

I ddathlu’r lansiad, caiff cyfres o weminarau a phodlediadau pwrpasol eu cyflwyno gan bartneriaid Canolfan PrOPEL yn edrych ar themâu fel rheoli yn ystod Covid-19, cynllunio swyddi, arloesi, llesiant a chynhyrchedd.

Dydd Llun nesaf, 22 Mehefin, caiff podlediad ei lansio – ‘Fair work in the context of Covid-19’ gyda’r Athro Alan Felstead o WISERD; yr Athro Patricia Findlay, Prifysgol Ystrad Clud ac Ed Houghton, CIPD.

Dilynwch y Ganolfan ar Twitter a LinkedIn i weld y newyddion diweddaraf.


Rhannu