Mae Repertoires cynnen ac ysgogi cymdeithasol: deinameg newidiol haeniadau dinesig a marchnatoli cyfiawnder cymdeithasol ym maes trawsnewid ynni yn defnyddio astudiaethau achos cymharol yn y DU ac Awstralia i ystyried sut mae repertoires newydd ysgogi cymdeithasol trawswladol a alluogir gan dechnoleg yn cyfrannu at ddeinameg newidiol haeniadau dinesig mewn oes ansicr. Bydd yn craffu ar y berthynas rhwng y wladwriaeth, y farchnad, unigolion a chymdeithas sifil a gwleidyddiaeth trawsnewid ynni.
Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a gorffen unigol eu hunain sy’n dod o fewn y rhaglen ymchwil bum mlynedd.