Gallwch ei lawrlwytho yma
Crynodeb gweithredol
Nodau
Roedd dau nod i’r rhaglen ymchwil: roedd y cyntaf yn ymwneud â’r angen i nodi materion sy’n codi wrth ddatblygu’r cwricwlwm fel y maent yn berthnasol i anfantais; roedd yr ail yn ymwneud â’r angen i adeiladu capasiti ymchwil addysg yng Nghymru.
Rhaglen ymchwil
Er mwyn bodloni dau nod y rhaglen, rydym wedi datblygu model ‘both ac adenydd’. Rhoddodd y prosiect ‘both’ drosolwg mwy cynhwysfawr ar y ffordd y gallai’r cwricwlwm newydd ymwneud â dysgwyr dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Roedd y prosiect hwn wedyn yn cysylltu â phum is-brosiect yr oedd pob un ohonynt yn canolbwyntio ar ddimensiwn gwahanol o anfantais. Roedd dau yn canolbwyntio ar ysgolion a disgyblion sy’n debygol o wynebu heriau penodol – ysgolion mewn ardaloedd gwledig a dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Roedd dau yn canolbwyntio ar feysydd dysgu penodol – y fframwaith cymhwysedd digidol a’r celfyddydau mynegiannol ac mae un prosiect wedi archwilio rôl ymyriadau ymwybyddiaeth ofalgar i hybu iechyd a lles. Er bod y chwe phrosiect i gyd yn archwilio gwahanol ddimensiynau o anfantais, mae rhai nodweddion tebyg yn amlwg yn eu canfyddiadau o ran yr hyn y mae’r cwricwlwm newydd yn ei addo a’r peryglon posibl.
Canfyddiadau ar faterion sy’n dod i’r fei wrth ddatblygu’r cwricwlwm
Yn gyffredinol, mae mwyafrif yr athrawon mewn Ysgolion Arloesi yn llawn cyffro am y cwricwlwm newydd. Maent yn teimlo’n rhwystredig gyda’r system bresennol, gan ei gweld yn gwricwlwm rhagnodol sy’n gosod gofynion atebolrwydd beichus ar ysgolion. Ar y cyfan, nid oedd athrawon a rhanddeiliaid eraill yn sôn yn aml am y goblygiadau i ddysgwyr ac ysgolion dan anfantais. Ceir y dybiaeth ensyniedig y bydd y cwricwlwm o fudd i bawb, heb unrhyw eglurhad o sut y bydd hyn yn digwydd – nac o’r risgiau yr eir iddynt. Wrth fwrw ymlaen â’r mater hwn, llwyddodd Ymarferwyr Arloesi i nodi nifer o fanteision posibl a allai ddod i ran pobl dan anfantais, pobl sydd wedi ymddieithrio a phobl ifanc sydd wedi’u dadrithio. Gellir categoreiddio’r rhain yn nhermau: gwerthfawrogi dilyniant; meithrin lles; cwricwlwm mwy arbrofol; mwy o hyblygrwydd a pherthnasedd.
Er yr ymddengys fod gwneud y cwricwlwm yn un sydd seiliedig mwy ar brofiad a dilyniant yn amlwg yn rhywbeth gwerth chweil, yn ymarferol gwyddom y bydd hyn yn gofyn am lefel sylweddol o fuddsoddiad os yw pawb i gael y manteision. Mae’n amlwg o’n hymchwil bod gwahaniaethau o ran ymgysylltu a buddsoddi y bydd angen mynd i’r afael â hwy os yw mwy o bobl i gael y manteision. Mae gwahaniaethau clir hefyd yn gysylltiedig â’r broses ‘Arloeswyr’ o ddatblygu’r cwricwlwm ei hun. Mae ein mapio o broffil Ysgolion Arloesi yn datgelu eu bod yn cael mantais anghymesur o ran proffil economaidd-gymdeithasol eu myfyrwyr. Ceir gwahaniaethau clir yn y lefelau o ymgysylltu a brwdfrydedd<a} o fewn Ysgolion Arloesi, sy’n debygol o gael ei chwyddo rhwng Ysgolion Arloesi a Phartner. Yn yr un modd, mae pryderon ynghylch gwahaniaethau mewn buddsoddiad. Roedd mater a godwyd yn fynych gan yr Ysgolion Arloesi yn ymwneud â’r gost sy’n gysylltiedig â datblygu a gweithredu’r cwricwlwm. Hyd yn oed gyda’r arian ychwanegol yr oedd yr ysgolion hyn wedi’i dderbyn, nid oeddent yn gallu darparu gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol i’w holl fyfyrwyr – ac roeddent yn poeni am sut y byddent yn gweithredu’r cwricwlwm ar ôl i’r cyllid datblygu ddod i ben. Roedd hyn yn bryder arbennig mewn ysgolion mewn ardaloedd mwy dan anfantais yn economaidd na allant fanteisio ar haelioni rhieni cefnog i ategu cyllidebau. Unwaith eto, mae’r gwahaniaethau hyn yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy amlwg ar draws ysgolion nad ydynt yn rhai Arloesi.
Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ysgolion o ran ymgysylltu a buddsoddi, mae materion yn codi ynghylch anghenion grwpiau penodol o ddysgwyr y mae angen mynd i’r afael â nhw. Ymddengys nad yw Athrawon mewn Ysgolion Arloesi wedi’u hargyhoeddi y bydd y Cwricwlwm newydd o fudd arbennig i fyfyrwyr dan anfantais yn eu hysgolion eu hunain. Fodd bynnag, yr athrawon a oedd yn fwyaf cadarnhaol am fudd posibl y cwricwlwm newydd i ddysgwyr dan anfantais oedd athrawon mewn Ysgolion Arloesi â lefelau uwch o ddisgyblion dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Er y gall hyn fod yn gysur ar un lefel, os yw eu brwdfrydedd yn dibynnu ar y posibilrwydd o gynnig cwricwlwm mwy ‘hyblyg’ a ‘galwedigaethol’ i’w myfyrwyr, mae’n rhaid bod pryderon gwirioneddol ynghylch hawl a rennir i gwricwlwm sy’n ddeallusol heriol.
Yn gryno, mae’n rhaid cydnabod bod angen buddsoddiad newydd sylweddol i danategu’r diwygiad hwn. Mae’n bosibl y bydd modd lliniaru yn erbyn y goblygiadau negyddol hyn, ond dengys ein hymchwil, er mwyn i hyn ddigwydd, fod angen i Lywodraeth Cymru, y consortia addysg a’r Ysgolion Arloesi sicrhau bod eu cynlluniau ar gyfer llwyddiant y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o sylw i anghenion dysgwyr ac ysgolion sydd o dan anfantais.
Cynnydd o ran adeiladu capasiti ym maes ymchwil
Cynlluniwyd y dimensiwn meithrin gallu hwn yn y rhaglen ymchwil hon ar sail profiad helaeth o ymgymryd â gweithgareddau adeiladu gallu ymchwil yn y DU, a’u gwerthuso. Roedd y model yn seiliedig ar yr egwyddor bod ymchwilwyr newydd yn cael eu cefnogi orau trwy gyfuniad o arweiniad arbenigol, ymchwiliad cydweithredol ac ymdeimlad o berchnogaeth unigol. Un agwedd allweddol ar hyn oedd strwythur ‘both ac adenydd’ y rhaglen. Nid oedd y gydran both yn darparu canllawiau yn unig, ond prosiect ymchwil cynhwysfawr a allai lywio’r prosiectau ‘adenydd’ sy’n cael eu cyflawni gan y partneriaid. Yn ogystal â gweithdai a chyfarfodydd, anogwyd cydweithredu drwy fentora a chyngor yn aml. Mae sylwadau’r cyfranogwyr yn dangos bod y cyfuniad o fewnbwn ffurfiol drwy weithdai a chydweithio ag ymchwilwyr eraill, ynghyd â pherchenogaeth o’u prosiectau ymchwil eu hunain, wedi bod yn brofiad cadarnhaol. Mae canfyddiadau allweddol o adborth gan bartneriaid yn amlygu’r agweddau canlynol fel elfennau pwysig o’u datblygiad:
o Gweithdai ffurfiol, wedi’u teilwra i anghenion y prosiectau unigol
o Y cyfle i gydweithio gydag ymchwilwyr o sefydliadau addysg uwch eraill ar brosiectau cysylltiedig ond gwahanol
o Yr ymdeimlad o berchnogaeth dros gyfarwyddo eich prosiect eich hun
Fel gyda phob ymchwil, y prif rwystr oedd dod o hyd i’r amser. Fodd bynnag, ein hargraff ni yw bod natur gyfunol yr ymdrech a’r cyfarfodydd rheolaidd yn golygu bod ymchwil yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn amserlenni gwaith partneriaid.
Un dangosydd arall o lwyddiant y model meithrin gallu hwn yw bod yr holl gyfranogwyr yn bwriadu bwrw ymlaen â’u hymchwil a datblygu prosiectau newydd gyda chydweithwyr.
Yn fyr, mae’r dystiolaeth yn dangos bod y model hwn o feithrin gallu wedi bod yn llwyddiannus i raddau helaeth ac y gall ddarparu templed ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.