Gallwch ei lawrlwytho yma

Rhagair    
Mae’r adroddiad mewnweledol ac addysgiadol hwn yn gwneud cyfraniad mawr at ein dealltwriaeth o felinau trafod yng Nghymru.

Gellir dadlau ein bod yn byw mewn cyfnod lle mae mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth nag a fu erioed – mewn sut mae penderfyniadau a wneir ym Mrwsel, San Steffan neu’r Senedd yn cael effaith ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Pwy fyddai wedi meddwl, er enghraifft, y byddai’r gwasanaeth ffrydio’n fyw, BBC Parliament, yn gweld cynnydd mwyaf mewn cynulleidfa unrhyw sianel deledu yn 2019?

Mae mwy o ymwybyddiaeth o fewn y gymdeithas sifil o’r cydberthnasau rhwng polisi a llesiant – p’un a yw hyn yn ymwneud, er enghraifft, â phryderon am ganlyniadau economaidd ac iechyd posib gadael yr Undeb Ewropeaidd neu’r teimladau o ymyleiddio a all gael eu profi gan y rheini a wnaeth bleidleisio ‘gadael’ os byddwn yn ‘aros’.

Fodd bynnag, er gwaethaf ymwybyddiaeth gynyddol, mae dadleuon gwleidyddol ar hyn o bryd yn ymweld fel petai’n hybu emosiwn yn lle eglurder meddwl, drwy gythreulio’r ochr arall yn lle dangos parodrwydd i drafod.

Yn y cyfnod cynhyrfus hwn, mae gan felinau trafod ran bwysig i’w chwarae. Maent yn gweithredu fel peiriau ar gyfer cynhyrchu trafodaeth ar sail dystiolaeth o fewn y gymdeithas sifil. Maent hefyd yn cynnig lle ar gyfer lledaenu a thrafod syniadau newydd sydd yn ddiffygiol yn ôl pob golwg mewn mannau eraill.

Mae melinau trafod yng Nghymru yn enwedig o bwysig i Gymru, gwlad y mae ei buddiannau’n cael eu hanghofio’n aml gan feysydd polisi a chyfryngau dan ddylanwad trwm San Steffan. Fodd bynnag, maent yn wynebu nifer o heriau yn ogystal â chyfleoedd, fel y dengys yr adroddiad hwn.

Hoffwn ddiolch i Victoria Winckler am yr hanes clir ac ysgolheigaidd hwn.

Yr Athro Sally Power
Cyfarwyddwr WISERD