Mae AddysgWISERD yn cynnwys dau brif ddimensiwn ymchwil:
- Astudiaethau carfan
- Integreiddio data
Wrth ymgymryd â’r ymchwil hon, rydym am gynnwys ymchwilwyr ar hyd a lled Cymru gyfan.
Yr astudiaethau carfan
Yn 2012, nodom dros ugain o ysgolion cynradd ac uwchradd a oedd yn hapus i gyfranogi yn AddysgWISERD drwy ganiatáu i ni ddilyn cynnydd dosbarth o blant dros y tair blynedd nesaf. Mae’r ysgolion hyn yn cynrychioli’r amrywiaeth eang o ysgolion yng Nghymru. Maent wedi’u lleoli ledled Cymru – mewn ardaloedd gwledig a threfol, ac maent yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy ffrwd iaith.
Yn 2012 cynhaliom arolwg o:
- 345 o ddisgyblion Blwyddyn 6 mewn 16 o ysgolion cynradd
- 412 o ddisgyblion Blwyddyn 8 mewn 13 o ysgolion uwchradd, a
- 436 o ddisgyblion Blwyddyn 10 yn yr un ysgolion uwchradd hyn
Yn 2013 a 2014, byddwn yn ymweld eto â phob un o’r myfyrwyr hyn i ddilyn eu cynnydd. Yn 2013, byddwn hefyd am gynnal arolwg o:
- 300 o ddisgyblion Blwyddyn 2 mewn xx o ysgolion cynradd
Yn ein harolygon, rydym yn awyddus i gasglu data ar brofiad y plentyn o’r ysgol. Yn ogystal, rydym wrthi’n cynnal arolwg o’u rhieni a’u gofalwyr, i ganfod beth yw canfyddiadau rhieni o ysgol ac addysg eu plentyn yn gyffredinol.
Yn 2013, byddwn hefyd wedi cwblhau cyfweliadau gyda phenaethiaid a llywodraethwyr y 29 ysgol hyn. Bydd arolwg athrawon yn rhoi safbwynt gweithwyr proffesiynol i ni hefyd ar gryfderau a gwendidau gweithio yng Nghymru.
Integreiddio data
Yn ogystal â chasglu data newydd gan ddisgyblion, rhieni a gweithwyr proffesiynol, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o ddata sydd ar gael yn barod. Rydym wrthi felly yn gofyn am ganiatâd rhieni i gysylltu data a gedwir yn genedlaethol am gynnydd y plentyn â’n harolygon. Gobeithiwn ehangu’r broses hon o integreiddio data i ystod o ddata uwchradd arall.
Cynnwys ymchwilwyr ledled Cymru
Mae’r data o’r astudiaethau carfan a setiau data eraill yn rhoi adnodd ffantastig i ymchwilwyr eraill ar hyd a lled Cymru i archwilio ystod gyfan o faterion addysgol pwysig. Er mwyn manteisio hyd yr eithaf ar yr adnodd hwn, rydym yn ymgymryd yn rheolaidd ag:
- Ymweliadau ag adrannau addysg ym mhrifysgolion Cymru i ddangos yr ymchwil ac ymgysylltu â’r gymuned addysg athrawon
- Yn gwahodd ymchwilwyr addysg i fanteisio ar leoliadau AddysgWISERD i gynnal eu dadansoddiadau eu hunain gan ddefnyddio’r data.