Llywodraeth Cymru, Ymchwil Gymdeithasol (43/2014)

Polisi blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar (i blant 3 i 7 oed) yng Nghymru yw’r Cyfnod Sylfaen. Mae’n nodi gwyriad radical oddi wrth yr ymagwedd fwy ffurfiol, yn seiliedig ar gymhwysedd, a oedd yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cenedlaethol blaenorol Cyfnod Allweddol 1, ac mae’n eiriol dull atblygiadol, arbrofol o addysgu a dysgu, sy’n seiliedig ar chwarae. Noda Y Wlad sy’n Dysgu: Dogfen Ymbaratoi (Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2001) fod Cymru, yn dilyn datganoli, wedi bwriadu mabwysiadu ei chyfeiriad polisi ei hun er mwyn ‘cael y gorau i Gymru’. Roedd yn ymddangos bod cael y gorau i Gymru yn golygu wynebu heriau’r farchnad fyd-eang (codi lefelau sgiliau sylfaenol1); goresgyn anfantais gymdeithasol; adeiladu cymdeithas gref, fentrus sy’n croesawu amlddiwylliannaeth; a hyrwyddo iaith a thraddodiadau Cymru. Ystyriwyd bod cyfranogi yn ymagwedd allweddol.

Hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau a fydd yn archwilio deilliannau sydd ar gael o ddadansoddi Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion (NPD). Yn benodol, mae’n cyflwyno canfyddiadau ar gyfraddau absenoldeb ac asesiadau athrawon ar gyfer holl blant Cymru a oedd rhwng pedair a saith oed rhwng 2004/05 a 2010/11.