Llywodraeth Cymru, Ymchwil Gymdeithasol (37/2012)
Polisi blaenllaw Llywodraeth Cymru ar addysg y blynyddoedd cynnar (ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed) yng Nghymru yw’r Cyfnod Sylfaen. Trwy nodi gwyriad radical oddi wrth y dull mwy ffurfiol, yn seiliedig ar gymhwysedd oedd yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cenedlaethol blaenorol Cyfnod Allweddol 1, mae’n eirioli dull datblygiadol, arbrofol, yn seiliedig ar chwarae o addysgu a dysgu. Mae Y Wlad sy’n Dysgu: Dogfen Ymbaratoi (CCC 2001a) yn nodi mai bwriad Cymru, ar ôl datganoli, oedd pennu ei chyfeiriad polisi ei hun er mwyn ‘cael y gorau i Gymru’. Roedd yn ymddangos bod cael y gorau i Gymru yn golygu bodloni heriau’r farchnad fyd-eang (gan godi lefelau sgiliau sylfaenol1); goresgyn anfantais gymdeithasol; adeiladu cymdeithas gref a mentrus sy’n croesawu amlddiwylliannaeth; a hyrwyddo iaith a thraddodiadau Cymru. Ystyrid bod cyfranogi yn ddull allweddol.
Nod yr adroddiad hwn yw datblygu model rhesymeg polisi sy’n amlinellu amcanion a chanlyniadau bwriadedig y Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys y cyd-destun ar gyfer ei gyflwyno, y theori, y rhagdybiaethau a’r dystiolaeth sy’n sail i’w resymwaith, ei gynnwys a’i fewnbynnau allweddol. Fe’i cynlluniwyd i gynorthwyo yn y gwerthusiad parhaus o’r polisi.