Llywodraeth Cymru, Ymchwil Gymdeithasol (44/2014)
Mae’r Cyfnod Sylfaen (a gyflwynwyd yn 2008) yn cynnig cwricwlwm o ddysgu trwy brofiad, sy’n briodol yn ddatblygiadol, i blant 3 i 7 oed yng Nghymru. Nod y gwerthusiad annibynnol (dan arweiniad WISERD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yw gwerthuso pa mor dda y caiff ei roi ar waith, beth fu ei effaith, a ffyrdd o’i wella. Mae’r gwerthusiad tair blynedd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau cymysg ar raddfa genedlaethol a lleol. Dyma un o bedwar papur sy’n canolbwyntio ar effaith. Mae’n defnyddio 239 o arsylwadau ar ddosbarthiadau a lleoliadau, 357 o gyfweliadau ag ymarferwyr, 604 o ymatebion gan ysgolion a lleoliadau i arolwg a 671 o ymatebion i Arolwg Blwyddyn 2, saith grŵp ffocws Blwyddyn 2, a 37 cyfweliad ag Awdurdodau Lleol a phedwar cyfweliad â lleoliadau nas cynhelir.