Llywodraeth Cymru, Ymchwil Gymdeithasol (06/2013)

Mae’r gwerthusiad yn defnyddio methodoleg dulliau cymysg, gan gynnwys elfen feintiol wedi’i seilio ar setiau data presennol.

Mae’r gwerthusiad yn adrodd am ddau ganfyddiad allweddol ond cydgysylltiedig. Y cyntaf yw bod tystiolaeth gref i awgrymu bod CBC yn arbennig o werthfawr o ran helpu myfyrwyr i gael eu derbyn i addysg uwch. Mae’n ymddangos bod y budd hwn yn deillio’n bennaf o’r pwysoliad a roddir i elfen Craidd CBC fel cymhwyster cyfwerth â Safon Uwch ychwanegol (gradd A) ar gyfer (rhai) derbyniadau i brifysgolion.

Fodd bynnag, mae’r gwerthusiad hefyd yn canfod tystiolaeth sy’n awgrymu bod myfyrwyr sy’n meddu ar Craidd CBC yn llai tebygol o gyflawni canlyniad gradd ‘da’ na myfyrwyr cyfwerth nad ydynt yn meddu ar Craidd CBC, pan fyddant yn y brifysgol.