Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 – Galwad am Bapurau


Artwork depicting a diverse crowd of people in sketch style

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022.

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022
Prifysgol Abertawe  
Dydd Mercher 6 Gorffennaf a dydd Iau 7 Gorffennaf 2022

Thema ein Cynhadledd Flynyddol yw ‘Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid‘.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ein prif siaradwyr fydd yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth a Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.

Mae ein thema’n adlewyrchu heriau byd-eang wrth lunio cymdeithas sifil a chymryd rhan. Caiff pryderon ynghylch tlodi a chyfiawnder cymdeithasol eu llywio fwyfwy gan argyfwng ynni byd-eang a chostau byw cynyddol; mae’r pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig wedi gwaethygu anghydraddoldeb a rhaniadau diwylliannol presennol ac mae’r polisi newid yn yr hinsawdd yn gofyn cwestiynau pellach am rolau a chyfrifoldebau gwladwriaethau, marchnadoedd a dinasyddion.

Mae argoel y bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r sector academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector rwydweithio a thrafod gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol o Gymru a thu hwnt sy’n canolbwyntio ar ddulliau a fabwysiadwyd mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan gydweithwyr am y meysydd pwnc canlynol, yn enwedig os ydynt yn cyd-fynd â heriau cyfoes:

  • Cymdeithas sifil, cymryd rhan a llywodraethu
  • Cymryd rhan, diwylliant a hunaniaeth iaith
  • Tlodi a chyfiawnder cymdeithasol
  • Cysylltiadau byd-eang Cymru: cymdeithas sifil a chymryd rhan mewn cyd-destun
  • Cymryd rhan a chymdeithas sifil drwy gwrs bywyd
  • Cymryd rhan mewn addysg
  • Cymryd rhan yn y farchnad lafur
  • Gweithio gyda chymunedau
  • Ymchwil am gymryd rhan ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ymchwil am actifiaeth a chymdeithas sifil
  • Ymgymryd ag ymchwil am gymryd rhan a gweithredu

Croesewir hefyd bapurau a phosteri ar bynciau eraill o fewn y thema nad ydynt yn dod o dan yr is-themâu uchod.

Eleni, hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.

Canllawiau cyflwyno

  1. Rhaid defnyddio’r ffurflen dempled ynghlwm ar gyfer cyflwyno crynodebau.
  2. Dylid cyflwyno pob crynodeb o gynnig neu syniad ar wahân.
  3. Gellir cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
  4. Caiff yr holl gyflwyniadau eu hadolygu gan Bwyllgor Adolygu WISERD. Swyddogaeth y pwyllgor yw sicrhau bod rhaglen gytbwys o sesiynau’n cael ei datblygu sy’n seiliedig ar berthnasedd, galw, anghenion ac amseru datblygiad proffesiynol. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion a syniadau, ond hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hymdrechion ac am gymryd diddordeb mewn cefnogi Cynhadledd WISERD 2022.
  5. Cyhoeddir hysbysiadau o dderbyn ym mis Mawrth 2022 ac unwaith y bydd y rhaglen wedi’i threfnu’n derfynol, caiff cyfranwyr gadarnhad o ddyddiad ac amser eu sesiwn. Gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno eu deunyddiau sesiwn manwl yn ystod y gwanwyn.
  6. Mae’n bosibl y gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno mewn fformat gwahanol.
  7. Os cewch eich derbyn fel siaradwr bydd angen i chi gofrestru fel cynrychiolydd yn y ffordd arferol, a chadw eich lle yn ystod y cyfnod archebu cynnar, sef 20 Mawrth – 15 Mai 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau haniaethol yw 9.00yb ddydd Gwener 28 Ionawr 2022.

Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk.


Share