Adroddiad ‘Towards Justice’ yn galw am gydweithio er mwyn cefnogi dioddefwyr niwed yn y gorffennol


Panel at Towards Justice launch event

Mae adroddiad gan yr elusen addysgiadol Cumberland Lodge yn galw ar heddlu, gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi i gydweithio’n agosach er mwyn ymateb i niweidiau o’r gorffennol – a rhoi anghenion dioddefwyr, goroeswyr a’u teuluoedd wrth galon hyn.

Un o’r argymhellion allweddol a geir yn Towards Justice: Law Enforcement & Reconciliation gan Martina Feilzer (cyd-gyfarwyddwr WISERD), Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor yw’r galw am gyflwyno Adfocad Cyhoeddus Annibynnol ar frys, er mwyn cynnig un pwynt cyswllt i gynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Mae’r adroddiad yn cydnabod cymhlethdod y sefyllfa mae dioddefwyr yn medru profi wrth ddelio gyda sawl asiantaeth ac yn cynghori y dylai gwersi gael ei dysgu o’r system Adfocad Cyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio mewn rhai taleithiau yn UDA.

Mae Towards Justice yn cynnig mewnwelediad unigryw, traws-sector trwy dynnu ar brofiadau cyfunol ac arbenigedd yr heddlu, academyddion, sefydliadau anllywodraethol, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr yn ogystal â thystiolaeth gan ddioddefwyr, goroeswyr a theuluoedd niwed a chamdriniaeth o’r gorffennol, o gamdriniaeth rywiol o fewn sefydliadau, i Hillsborough a’r sgandal cynnyrch gwaed halogedig.

Mae gwrando ar y rhai hynny sydd wedi profi’r ymateb i niwed o’r gorffennol – y dioddefwyr, eu teuluoedd a’u cefnogwyr, heddlu a phobl broffesiynol eraill – yn ogystal ag academyddion a chynulleidfa ehangach wedi rhoi mewnwelediad unigryw i mewn i ddiffygion y system bresennol a’i phrosesau. Mae’r hanfodol nad yw’r systemau rhwymedi sydd yn ei lle yn ychwanegu rhagor o niwed a phoen i’r dioddefaint sy’n bodoli’n barod, ac ein bod ni’n cydnabod y trawma sy’n atseinio’n hirdymor trwy’r niwed cymhleth yr ydym yn edrych arno.

– Martina Feilzer (cyd-gyfarwyddwr WISERD), Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor

Mae ei hadroddiad, sy’n cael ei gyflwyno i’r Weinidogaeth Cyfiawnder mewn ymateb i’w ymgynghoriad ar ddarparu cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr, yn cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer delio â niweidiau’r gorffennol o fewn cymdeithas mewn ffyrdd sydd yn gyfiawn ac yn hynaws i’r dioddefwyr, goroeswyr a’r teuluoedd.

Mae galwadau cynyddol am ddyletswydd didwylledd ar gyfer heddlu presennol a rhai sydd wedi ymddeol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, yn cael eu hatsain yn adroddiad Yr Athro Feilzer, sy’n nodi bod diffyg tryloywder yn medru arwain at ddiffyg ymddiried a drwgdybiaeth o dwyll. Mae’n argymell adolygiad o’r ffurfiau presennol o rwymedi sydd ar gael i ddioddefwyr, goroeswyr niwed o’r gorffennol a’u teuluoedd, er mwyn mynd i’r afael â’r tensiwn sydd wedi ymddangos dros amser ac er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â gofynion y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf.

Mae’n annog archwilio systemau amgen o rwymedi fel cyfiawnder adferol, sydd wedi ennill momentwm mewn meysydd eraill o fewn y system gyfiawnder troseddol. Mae hefyd yn galw i’r partïon sy’n rhan o’r broses i adnabod bod niwed o’r gorffennol yn parhau i atsain yn y presennol, a’r angen i ddysgu o ymatebion diweddar i niwed o’r gorffennol a’u llwyddiannau a’i methiannau er mwyn gwella parhaus yn y systemau rwymedi.

Yn ei hanfod, mae’r adroddiad yn gal war y sefydliadau rheiny sy’n gyfrifol am ymateb i honiadau o niwed i gofio eu bod yn delio a phobl go iawn sy’n wynebu sefyllfaoedd trawmatig ac emosiynol dros ben.

Meddai Dr Edmund Newell, Prif Weithredwr Cumberland Lodge, “Mae Towards Justice yn ychwanegu at fomentwm yr alwad gynyddol am wella’r dull o ymateb i niweidiau o’r gorffennol. Yn gefndir i’r adroddiad mae’r gydnabyddiaeth fod treigl amser ddim yn iachaol i ddioddefwyr os yw’r anghyfiawnder yn parhau, ac mae’n bosib bod y dull yn gwneud materion yn fwy cynhennus, problematig – a drud – i bawb. Y gobaith yw y bydd cyhoeddi’r adroddiad hwn yn gam pwysig ymlaen o ran gwella polisi ac ymarfer.”

Ychwanegodd Y Gwir Barchedig James Jones, cyn Gadeirydd Panel Annibynnol Hillsborough: “Mae’r adroddiad yn cydnabod, yn ddigon gwir, nad yw treigl amser yn dod ag iachâd i’r dioddefwyr os yw’r anghyfiawnder yn parhau. Mae’r dadansoddiad a’r argymhellion yn delio’n uniongyrchol gyda sut y gall cyfiawnder gael ei gyflawni’n well, ac mae’n atsain sawl pwynt dysgu pwysig yn fy adroddiad The Patronising Disposition of Unaccountable Power. Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad yma heddiw yn helpu annog y Llywodraeth i ddod a’i ymateb ymlaen mor fuan â phosib ac yn ymateb yn bositif i’r ddau adroddiad.”

Gellir lawrlwytho copi o’r adroddiad yma: www.cumberlandlodge.ac.uk/read-watch-listen/towards-justice-law-enforcement-reconciliation-cumberland-lodge-report.

 

Cyhoeddwyd yr eitem newyddion hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Bangor.


Rhannu