Mae’n bryd ailfeddwl beth yw gwyddoniaeth dinasyddion mewn gwirionedd


Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn ddull poblogaidd o gasglu data ar gyfer gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol, ac mae nifer y prosiectau a’r cyhoeddiadau a gynhyrchir yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae prosiect gwyddoniaeth dinasyddion nodweddiadol yn defnyddio gwirfoddolwyr i gasglu data a fyddai, fel arall, yn anfforddiadwy neu’n anhygyrch.

Ond, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod ein hastudiaeth o anghydfod cynllunio hirsefydlog yn Ne Cymru, credwn ei bod yn bryd ehangu ein dealltwriaeth o wyddoniaeth dinasyddion i gynnwys ystod lawer ehangach o weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys astudio cyfraith cynllunio ac amgylcheddol, yn ogystal â chadw’n gyfredol â’r wyddoniaeth sy’n dylanwadu ar benderfyniadau’r llywodraeth.

Beth yw gwyddoniaeth?

I’r rhai sy’n arddel safbwynt traddodiadol, mae gwyddoniaeth yn weithgaredd gwrthrychol sy’n cynhyrchu gwybodaeth, a lle bo trylwyredd yn arwain at ganfod gwirioneddau. Mewn cyferbyniad â hynny, ystyrir gwyddoniaeth dinasyddion yn aml mewn termau eithaf cul. Ac er bod cydweithrediad rhwng gwyddonwyr amatur a phroffesiynol yn seiliedig ar ddiddordebau a rennir, mae cynllunio prosiectau a dadansoddi data yn nwylo gwyddonwyr proffesiynol o hyd. Mae hynny’n golygu bod yna hierarchaeth glir.

Mae’r hyn y mae cymdeithas yn ei elwa o brosiectau o’r fath yn aml yn cael ei feincnodi yn erbyn pa un a oes gwelliant wedi bod yn nealltwriaeth y cyhoedd o’r pwnc ai peidio. Fodd bynnag, nid oes yna unrhyw synnwyr amlwg y gallai gwyddoniaeth ddysgu gan wyddonwyr-ddinasyddion neu gael ei herio ganddynt.

Rydym yn gweithio o fewn astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg (STS) sy’n edrych ar y modd y cawsant eu creu a’u datblygu. Rydym yn astudio’r modd y mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn eistedd o fewn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol. Felly, ar y sail honno, credwn fod yna rôl wahanol iawn i wyddoniaeth dinasyddion.

Mae llenyddiaeth STS yn awgrymu bod gwyddoniaeth yn gymdeithasol luniedig. Mewn geiriau eraill, mae’r modd yr ydym yn gweld ac yn dehongli’r byd o’n cwmpas yn dibynnu ar argaeledd offer gwyddonol megis microsgopau, synwyryddion amgylcheddol, ac ati. Mae angen cyllid digonol ar gyfer hynny, yn ogystal â dull dadansoddi a dderbynnir yn gyffredinol. Ac mae angen cytundeb a chyfaddawd rhwng blaenoriaethau a buddiannau grwpiau gwahanol o bobl yn achos y ddwy elfen hyn.

Felly, os yw gwyddoniaeth yn tueddu i atgynhyrchu braint a phersbectif grwpiau elitaidd, yna mae gwyddoniaeth dinasyddion yn cynnig y posibilrwydd o wyddoniaeth i’r bobl, gan y bobl. Byddai hyn yn gwneud gwyddoniaeth dinasyddion yn weithgarwch lle mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu o fewn cymunedau.

Gallai herio’r math o wyddoniaeth a ddefnyddir yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau a’n llesiant, megis pennu lefelau diogel o allyriadau, neu benderfyniadau ar seilwaith.

Y Barri

Aethom ati i astudio gwrthdaro cynllunio hirsefydlog yn y Barri, ger Caerdydd, sydd wedi bod yn mynd rhagddo oddi ar 2008. Mae’n ymwneud â gwaith biomas yng nghanol y dref, y mae ymgyrchwyr amgylcheddol lleol yn dadlau y dylid ei ddymchwel.

Mae’r gwaith, sy’n eiddo i Aviva Investors ar hyn o bryd, yn aros am benderfyniad gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru ynghylch a all ddechrau gweithredu ai peidio. Saif 100 metr yn unig o ystad dai newydd sbon yn ardal dociau’r dref. Mae rhai rhannau o’r Barri yn parhau i fod yn uchel ar fynegai amddifadedd lluosog Cymru, sef mesur tlodi swyddogol Llywodraeth Cymru.

Bu i ni edrych ar y modd y mae aelodau Grŵp Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri (BCSG) wedi ceisio atal y gwaith biomas rhag gweithredu. Maent wedi treulio 15 mlynedd yn craffu ar y cyfreithiau a’r rheoliadau sydd wedi arwain at y penderfyniadau cynllunio a thrwyddedu hyd yn hyn.

Ond i ba raddau y gellir ystyried hyn yn fath o wyddoniaeth dinasyddion? Wedi’r cyfan, mae’r gwaith yn segur, sy’n golygu na ellir cymryd unrhyw samplau o allyriadau. Ein dadl yw bod y gwaith y maent wedi’i wneud hyd yn hyn yn rhagflaenydd hanfodol i waith casglu data mwy ffurfiol dan arweiniad y gymuned.

Yn achos y BCSG, monitro ansawdd yr aer oedd y pryder mwyaf taer. Am ddwy flynedd, mae’r grŵp wedi mesur ansawdd “sylfaenol” yr aer yn y dref gan ddefnyddio synwyryddion digidol. Pe byddai’r gwaith yn dechrau gweithredu, bydd aelodau’r grŵp yn gallu cymharu unrhyw lygredd y mae’n ei gynhyrchu â’u data cyfredol.

Fodd bynnag, y tu hwnt i hynny, mae yna sawl llinyn arall ymhlith gweithgareddau’r grŵp y byddem yn dadlau sy’n cyfrif fel gwyddoniaeth dinasyddion. Mae’r aelodau wedi chwarae rhan mewn sawl agwedd ar graffu gwyddonol, yn union fel pe baent wedi gwneud hynny ar ran y datblygwr neu’r awdurdodau rheoleiddio.

Maent wedi gwerthuso, beirniadu ac ymateb yn ffurfiol i asesiadau risg technegol iawn y datblygwr ac wedi herio penderfyniadau a wnaed gan yr awdurdodau dro ar ôl tro. Mae eu holl weithgareddau wedi cael eu hategu gan wybodaeth am ddatblygiadau diweddar yn y gwyddorau naturiol, gwyddoniaeth reoleiddio, a chyfraith cynllunio a thrwyddedu.

Oddi ar 2008, mae’r BCSG wedi meithrin amrywiaeth aruthrol o arbenigedd technegol, a dylid cydnabod bod hyn yn fater o “roi gwyddoniaeth ar waith” yng ngwir ystyr y dywediad. Byddai awgrymu fel arall yn cynnig golwg dlawd a chyfyngedig o’r gwaith.

Ein gobaith yw bod yr astudiaeth achos hon yn estyn y drafodaeth am wyddoniaeth dinasyddion fel y gallwn gydnabod ei llawn botensial.

 

Nick Hacking, Cydymaith Ymchwil ym maes llywodraethu amgylcheddol, Prifysgol Caerdydd; Jamie Lewis, Darlithydd Cymdeithaseg, Prifysgol Caerdydd, a Rob Evans, Athro Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn The Conversation dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Credyd y llun: Nick Hacking

 


Rhannu