Mae’r Prif Gymrawd Ymchwil, Dr Igor Calzada wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i fwrw ymlaen â’i ymchwil drawsddisgyblaethol yn y gwyddorau cymdeithasol ar gydweithrediad Cymru a Gwlad y Basg gyda gweithdy ar-lein ar 5 Mai.
Mae Cymru a Gwlad y Basg yn rhannu rhai pethau diddorol sy’n gyffredin yn eu datblygiad, gan ganiatáu cyfleoedd i drafod datganoli a’r heriau presennol o amgylch economi wleidyddol diriogaethol; trawsnewidiadau trefol, megis sbarc I spark yng Nghaerdydd ac AS-Fabrik yn Bilbao; a hefyd arloesiadau ar lawr gwlad, gyda ffocws arbennig ar yr economi sylfaenol ddigidol a chwmnïau cydweithredol data/platfform.
Bydd y gweithdy ar 5 Mai, a ariennir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn casglu rhanddeiliaid allweddol o Gymru a Gwlad y Basg. Gyda’i gilydd, bydd rhanddeiliaid yn sefydlu rhwydwaith strategol y gallant weithio ohono tuag at ffurfio agenda ymchwil sy’n canolbwyntio ar bolisi, wedi’i llywio gan ddatblygiadau yn y ddwy wlad fach.
Yn y gweithdy, bydd y siaradwyr canlynol yn ymuno â Dr Igor Calzada: Yr Athro Ian Rees Jones (cyfarwyddwr WISERD), Yr Athro Kevin Morgan (Athro Llywodraethu a Datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd), yr Athro Joseba Agirreazkuenaga (Athro mewn Hanes Cyfoes ym Mhrifysgol Gwlad y Basg), yr Athro Rick Delbridge (Athro Dadansoddi Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd), Dr Nagore Ipiña (Deon y Dyniaethau a Gwyddorau Addysg ym Mhrifysgol Mondragon), Mark Hooper (Banc Cambria) a Beñat Irasuegi (Talaios Koop).
Rydym yn ddiolchgar i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ddyfarnu’r cyllid ar gyfer y digwyddiad hwn ac edrychwn ymlaen at sefydlu’r rhwydwaith a fydd yn symud yr agenda ymchwil hon yn ei blaen.
Yn ddiweddar cwblhaodd Dr Igor Calzada ei rôl fel Ysgolor Preswyl Fulbright ym Mhrifysgol Talaith California, Bakersfield (CSUB) trwy Gomisiwn Fulbright UDA-DU. Darllenwch fwy am ei gyfnod preswyl, a oedd â’r nod o gynyddu’r gallu i ymgysylltu â’r gymuned Basg-Americanaidd, yma.