Mae ein fideo WISERD newydd yn ddiweddariad ar waith WISERD, gan gynnwys ein rhwydweithiau ymchwil, prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid a’n hymrwymiad i feithrin capasiti a hyfforddiant. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg byr ar rywfaint o’n hymchwil bresennol a’i effaith ar gymdeithas, a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Fideo hyd llawn
Fideo rhagolwg
Cyfweliad gyda’r Athro Gary Higgs, Prifysgol De Cymru
Mae’r Athro Gary Higgs o Brifysgol De Cymru yn siarad am rywfaint o’i ymchwil ddiweddaraf ar hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus, ac yn enwedig y rhai y mae COVID wedi effeithio arnynt, fel banciau a mannau gwyrdd. Mae’n egluro fel y mae ei dîm yn canfod bylchau yn y ddarpariaeth ac yn cynhyrchu sylfaen dystiolaeth y gall sefydliadau ei defnyddio i gynllunio darpariaeth gwasanaethau’n fwy effeithiol a lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad.
Cyfweliad gyda’r Athro Martina Feilzer, Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Martina Feilzer o Brifysgol Bangor yn trafod ei hymchwil ar gefnogaeth sefydliadau cymdeithas sifil i ffoaduriaid a mudwyr mewn nifer o wledydd yn Ewrop, a sut yr arweiniodd hyn at ffocws annisgwyl ar brofiadau’r gymuned Roma. Bydd yr ymchwil hon yn rhoi gwybodaeth a thystiolaeth i sefydliadau cymdeithas sifil, a’r gallu i ymgysylltu â llunwyr polisïau am eu cymunedau.
Cyfweliad gyda’r Athro Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth
Mae’r Athro Michael Woods o Brifysgol Aberystwyth yn trafod prosiect a gwblhawyd yn ddiweddar a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd o’r enw IMAJINE ac sy’n cynnwys 15 o bartneriaid ledled Ewrop, lle defnyddir fframwaith cyfiawnder gofodol i archwilio anghydraddoldebau tiriogaethol yn Ewrop ac effaith polisïau cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd.
Cyfweliad gyda Dr Nick Hacking, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr Nick Hacking o Brifysgol Caerdydd yn trafod ei brosiect ymchwil o’r enw ‘Arbenigwyr, Arbenigedd a Gwyddoniaeth Dinasyddion’. Mae’n astudiaeth achos sy’n cynnwys grŵp o bobl yn y Barri sydd wedi bod yn defnyddio monitorau ansawdd aer digidol i gofnodi a dadansoddi data fel rhan o anghydfod cynllunio lleol a fu’n mynd rhagddo ers tro byd. Mae Dr Hacking yn esbonio fel y mae’r astudiaeth achos hon yn awgrymu’r angen i ehangu ein dealltwriaeth o wyddoniaeth dinasyddion i gynnwys ystod lawer ehangach o weithgareddau.
Cyfweliad gyda’r Athro Nigel O’Leary, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Nigel O’Leary o Brifysgol Abertawe yn esbonio sut mae ei ymchwil ar hunaniaeth a rhaniadau dinesig yn y DU yn archwilio’r canlyniadau gwahaniaethol ar draws grwpiau ymylol mewn cymdeithas. Mae llawer o’r ymchwil yn canolbwyntio ar dair hunaniaeth allweddol: hunaniaeth grefyddol, hunaniaeth rywiol a’r rheini sydd â salwch neu anabledd cyfyngu tymor hir.
Cyfweliad gyda’r Athro Sally Power, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Sally Power o Brifysgol Caerdydd yn trafod rhai o ganfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS), sy’n olrhain cynnydd plant a phobl ifanc wrth iddynt fynd drwy addysg uwchradd yng Nghymru. Mae’r Athro Power yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr astudiaeth barhaus hon gyda’r un garfan i ddarparu tystiolaeth i lunwyr polisïau ac ymarferwyr, gan eu galluogi i roi mesurau a pholisïau ar waith i wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Cyfweliad gyda’r Athro Scott Orford, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Scott Orford o Brifysgol Caerdydd yn esbonio sut mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn cyflwyno data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol am eich tref neu ardal leol. Gall eich helpu i ganfod cyfleoedd ar gyfer eich cymuned a deall y berthynas rhwng eich ardal a mannau eraill gerllaw. Mae hefyd yn caniatáu i grwpiau cymdeithas sifil a chymunedol lleol ddysgu mwy am y mannau lle mae eu haelodau’n byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden.