Llyfr newydd WISERD: Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century


Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century book cover.

Bydd monograff newydd gan W. John Morgan, Athro er Anrhydedd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a Chymrawd Emeritws Leverhulme yn WISERD, yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach eleni. Mae hefyd yn Athro Emeritws yn Ysgol Addysg Prifysgol Nottingham, lle roedd yn Gadair Economi Wleidyddol Addysg UNESCO; ac Athro er Anrhydedd yn Ysgol Gwyddorau Addysg Prifysgol Iorddonen.

Mae Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century yn mynd i’r afael â’r diddordeb sylweddol yn y cysyniad o ryfel oer diwylliannol fel modd o hyrwyddo ideolegau.

Mae’r llyfr yn trin a thrafod datblygiad y cysyniad yn yr 20fed ganrif. Mae’r llyfr yn cynnwys dwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn ystyried ymdrechion delfrydgar Cynghrair y Cenhedloedd i gydweithio mewn modd deallusol a rhyngwladol. Mae hefyd yn trafod y rhyfel oer diwylliannol cyntaf gan gynnwys ymdrechion sefydliad Comiwnyddiaeth Rhyngwladol i hybu comiwnyddiaeth. Mae hefyd yn dadansoddi apêl ideolegol a diwylliannol ffasgaeth yn yr Eidal, sosialaeth genedlaethol yn yr Almaen, a militariaeth genedlaetholgar yn Siapan; a’r newid o gynghrair yn ystod cyfnod y rhyfel i ryfel oer newydd.

Mae’r ail ran yn trin a thrafod adnewyddiad cydweithio mewn modd deallusol a rhyngwladol trwy Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yng nghyd-destun ail ryfel oer diwylliannol rhwng y democratiaethau cyfalafol a’r bloc comiwnyddol. Mae’r llyfr yn dangos bod UNESCO wedi dod yn gartref i’r gystadleuaeth ideolegol hon ac yn enghraifft o’i densiynau.

Yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol ac adolygiad cynhwysfawr o’r llenyddiaeth gan gynnwys llenyddiaeth Rwsieg, Almaeneg, a Ffrangeg, bydd y llyfr yn apelio at academyddion, ymchwilwyr ôl-raddedig, israddedigion uwch, ac eraill sydd â diddordeb mewn hanes rhyngwladol diweddar a gwleidyddiaeth syniadau gymharol.

Gallwch chi brynu’r llyfr ymlaen llaw ar 20 Medi 2024.


Rhannu