Erthygl ar ymchwil newydd yng nghyfnodolyn Population, Space and Place


Mae erthygl ar ymchwil newydd gan W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme yn WISERD ac Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ar y cyd â Dan Liu o Brifysgol Astudiaethau Tramor Guangdong a Qiuxi Liu o Brifysgol Amaethyddol Hunan, wedi’i chyhoeddi yn rhifyn diweddaraf  Population, Space and Place.

Mae’r erthygl, ‘Why do Chinese overseas doctoral graduates return to China? The push‐pull factors and the influence of gender and gender norms’, yn seiliedig ar astudiaeth ansoddol o 31 o raddedigion doethurol Tsieineaidd tramor sy’n dychwelyd i Tsieina.

Er bod sylw wedi’i roi i fudo dychwelol yn rhyngwladol, prin yw’r astudiaethau ymchwil o’r rhesymau pam mae graddedigion doethurol Tsieineaidd tramor yn dychwelyd i Tsieina. Nid oes astudiaeth sy’n ystyried cymhellion rhyweddol wedi’i darganfod eto.

Mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i’r hyn sy’n dylanwadu ar resymau graddedigion i ddychwelyd i Tsieina a sut mae’r rhain yn gysylltiedig â normau diwylliannol sy’n ymwneud â rhywedd a rolau rhywedd yn Tsieina. Gan ddefnyddio’r theori gwthio-tynnu a chysyniadau rhywedd (yn nodwedd unigol) a normau rhywedd, mae’r astudiaeth yn dangos bod y rhesymau dros ddychwelyd yn rhai rhyweddol, gyda menywod yn cael eu cymell gan ffactorau teuluol ac emosiynol a dynion yn cael eu cymell gan fanteision economaidd a gyrfaol.

Mae’r astudiaeth yn nodi anghydraddoldebau sy’n deillio o rolau rhywedd traddodiadol a normau diwylliannol sy’n parhau yn Tsieina. Mae i hyn oblygiadau i bolisi’r wladwriaeth, sefydliadau addysg uwch ac ymchwil yn y dyfodol.

Darllenwch yr erthygl yn llawn.

Ariennir yr astudiaeth hon gan Gronfa’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yng Ngweinyddiaeth Addysg Tsieina a Swyddfa Gynllunio Guangdong ar gyfer Athroniaeth a’r Gwyddorau Cymdeithasol.


Rhannu