Pwysigrwydd ystyried anghenion iechyd heb eu diwallu mewn absenoldeb cyson o’r ysgol


pupil learning at home writing with a pen on a notebook

Dr Robert French yw arweinydd academaidd rhaglen ymchwil addysg YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae’n trafod ei gyfraniad i ymchwiliad a ddechreuwyd gan Senedd y DU yn archwilio absenoldeb cyson o’r ysgol. 

Mae lefelau absenoldeb parhaus o’r ysgol ymhlith plant wedi dyblu ers pandemig Covid-19. Mae ystadegau gan yr Adran Addysg yn dangos, yn Lloegr, bod un o bob pump o blant bellach yn absennol yn gyson a bod y gyfradd absenoldeb gyffredinol wedi cynyddu o 5% yn 2019 i 8% yn 2022. Arweiniodd y ffigurau hyn at Bwyllgor Dethol Addysg Senedd y DU yn sefydlu ymchwiliad i “Absenoldeb cyson a chymorth i ddisgyblion dan anfantais” i dderbyn tystiolaeth gan arbenigwyr ar y pwnc hwn.

Ffocws ymchwiliad y Pwyllgor oedd sut y mae incwm isel, tlodi ac ymddieithrio o addysg yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion dan anfantais. Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn ymwybodol o’r holl resymau pam y gallai plant fod yn absennol o’r ysgol, roedd yn bwysig amlygu rhwystrau penodol i bresenoldeb yn achos y rhai sydd ag anawsterau iechyd. 

Cyflwyno’r dystiolaeth 

Ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, cyflwynais ganfyddiadau fy ymchwil fy hun yn ymwneud â lefelau absenoldeb plant sy’n byw gyda diabetes math 1. Canfu fod:

  • Plant sy’n byw gyda diabetes yn absennol o naw sesiwn ychwanegol y flwyddyn o’u cymharu â phlant heb ddiabetes.
  • Plant a oedd yn profi heriau wrth reoli eu diabetes yn colli 15 sesiwn ychwanegol o ysgol y flwyddyn o ‘u cymharu â phlant heb ddiabetes.

Mae byw gyda diabetes yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn, o’r teulu a chyfeillgarwch i’w hunan-barch. Gall sesiynau gael eu colli ar gyfer apwyntiadau meddygol sy’n ymwneud â’r cyflwr neu’r salwch o ganlyniad i fyw gyda diabetes. Oherwydd anghenion sydd heb eu diwallu ac sy’n ymwneud â’u hanabledd, mae llawer o blant yn cael problemau ynghylch mynychu’r ysgol yn rheolaidd.

Roedd ein tystiolaeth yn herio’r ffocws bod absenoldeb cyson o ganlyniad i broblemau ymddygiad ac ymddieithrio’n unig, gan dynnu sylw yn hytrach at y rhwystrau rhag presenoldeb yn achos disgyblion sydd ag anawsterau iechyd. Mae angen codi rhagor o ymwybyddiaeth, hyfforddiant a gweithredu polisi er mwyn sicrhau nad yw plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau’n cael eu hatal rhag derbyn yr addysg gyflawn y mae ganddynt hawl iddi.

Ymateb y llywodraeth

Darparodd Llywodraeth Ganolog y DU ymateb ysgrifenedig i’r ymchwiliad ym mis Rhagfyr 2023, â dau o’i hargymhellion yn ymwneud â’r dystiolaeth a gyfrannwyd gennym. Roedd un yn dweud “… yn cydnabod y gallai fod rhesymau clinigol a rhesymau eraill pam mae cyfraddau absenoldeb yn uwch mewn ysgolion arbennig ac ar gyfer plant â chynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal (EHC).” Dywedodd ail un y byddai’r Adran “yn cynnwys geiriad i gydnabod y gallai fod gan y garfan hon gyfraddau absenoldeb uchel am resymau dilys ac anochel.”

Ble nesaf?

Bydd ein tîm yn parhau i fonitro’r datblygiadau a mewnbynnu ein tystiolaeth ymchwil, i lywio newidiadau polisi i gefnogi plant nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol yn rheolaidd. 

Bydd Dr Jen Keating yn ystyried penderfynyddion iechyd ehangach yn achos absenoldeb o’r ysgol, gan ganolbwyntio ar amseriad diagnosis. Bydd Dr Alex Sandu yn ystyried y penderfynyddion economaidd-gymdeithasol, gan ganolbwyntio ar yr amrywiad daearyddol yn y cysylltiad hwn. Yn dibynnu ar gyllid, bydd gennym hefyd thema o waith dan arweiniad Dr Rob Trubey i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o gyfraddau absenoldeb o’r ysgol ar gyfer pobl ifanc sy’n byw gyda diabetes math 1.

Dysgwch ragor am raglen ymchwil addysg YDG Cymru a geir yn Rhaglen Waith YDG Cymru. 

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar ADR Wales. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.


Rhannu