Gan dynnu ar eu cyflwyniadau tystiolaeth ysgrifenedig rhoddodd yr Athro Melanie Jones a Victoria Wass dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y rhwystrau i gyflogaeth i bobl anabl. Yn ystod y drafodaeth fe wnaethant dynnu sylw at yr argymhellion yn y Siarter Cyflogaeth Anabledd, galw am fonitro a dadansoddi mesurau ehangach anghydraddoldeb anabledd yn y farchnad lafur, i gynnwys y bwlch cyflog anabledd, a dadlau’r achos dros fesur sefydliadol ac adrodd.
Gallwch wylio’r sesiwn [Sesiwn 2] yma: Senedd.tv – Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – 30/09/2024.
Mae’r Athro Melanie Jones yn aelod cyswllt WISERD ac yn Athro Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Athro Jones hefyd yn rhan o Disability@Work, a ddatblygwyd gan grŵp o bedwar ymchwilydd academaidd sydd â diddordeb cyffredin a hirsefydlog mewn anabledd a gwaith. Trwy grynodebau hygyrch o ganfyddiadau ein hymchwil, eu nod yw ymgysylltu â llunwyr polisi, ymarferwyr a grwpiau diddordeb. Darganfyddwch fwy ar wefan Disability@Work.
Ymddangosodd yr eitem newyddion hon yn wreiddiol ar wefan Disability@Work.