Mae undebau llafur ar draws y byd yn wynebu amrywiaeth o aflonyddwch sy’n ansefydlogi strwythurau, arferion a strategaethau traddodiadol. Mae llyfr newydd, Experimenting for Union Renewal, sy’n cynnwys pennod gan ymchwilwyr WISERD ar y sector dillad rhyngwladol, yn nodi dull newydd sy’n canolbwyntio ar arbrofi mewn ymateb i’r aflonyddwch hwn.
Gan dynnu ar ddadansoddiadau manwl o achosion o arloesi mewn undebau mewn detholiad eang o wledydd a diwydiannau, mae ymchwilwyr yn adrodd ar y mentrau adnewyddu hyn ac yn dysgu gwersi ganddyn nhw. Wrth ddadansoddi’r mentrau hyn gyda’i gilydd mae modd gwneud nifer o ganfyddiadau cyfoethog a thraws ddisgyblaethol er mwyn cefnogi mentrau o’r fath.
Mae’r penodau cyntaf yn disgrifio’r dull gweithredu ac yn rhoi trosolwg o’r deunaw astudiaeth achos. Mae adrannau dilynol yn grwpio’r achosion yn thematig: cystadlu â neoryddfrydiaeth, yr economi gig sydd wedi’i hollti, mentrau cadwyn gwerth rhwng y De a’r Gogledd, agenda undebau llafur sy’n ehangu, dilyn datblygiadau arloesol yng ngwaith a dulliau undebau, a datblygu mathau newydd o gynhwysiant a chydsefyll gydag eraill.
Mae’r astudiaethau achos yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang, boed yn economïau sy’n dod i’r golwg yn Affrica, Asia ac America Ladin neu’n achosion yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Er mwyn sicrhau hygyrchedd i unoliaethwyr llafur ac ymchwilwyr, ac i annog cymariaethau traws-achos, mae’r astudiaethau achos yn defnyddio templed cyffredin.
Teitl y bennod gan ymchwilwyr WISERD, Jean Jenkins, Helen Blakely, Rhys Davies a Katy Huxley yw: ‘Yr ymgais am ddillad glanach: defnyddio casglu data mwy systematig i hyrwyddo trefnu ac eirioli gweithwyr yn y sector dillad rhyngwladol’. Mae’r tîm yn tynnu sylw at ddau achos o arbrofi a ddyluniwyd i wella amodau gwaith mewn safleoedd yn y sector dillad rhyngwladol. Yn eu sylwadau i gloi, maen nhw’n honni “yr angen am gyflwyno tystiolaeth ffurfiol” ac yn awgrymu: “Mae’r casgliad systematig o ddata yn hanfodol er mwyn arbrofi gyda threfnu ac eiriolaeth.”
Yn ogystal â chyfraniad tîm WISERD, mae Marco Hauptmeier a Leon Gooberman o Ysgol Busnes Caerdydd hefyd yn cyfrannu pennod o’r enw: ‘Adeiladu pontydd: ffurfio clymblaid undeb i wella amodau gwaith gweithwyr amaethyddol yng Nghymru’, lle maen nhw’n trin a thrafod sefydliad cysylltiadau cyflogaeth newydd: Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
Mae’r bennod olaf yn tynnu sylw at bwyntiau ymarferol mewn perthynas â’r galluoedd strategol sydd eu hangen i gymryd rhan mewn arbrofi, arallgyfeirio ac ehangu repertoires strategol yr undeb, a’r amodau llwyddiant ar gyfer arbrofi o’r fath. Mae’r achosion hyn o arbrofi yn dangos bod hanfodion pwrpas yr undeb a hyrwyddo gwaith gwell mor hanfodol ag erioed, ond maen nhw’n cael eu herio. Mae lens arbrofi yn cynnig dull ymarferol, gan drin a thrafod sawl dimensiwn o greadigrwydd a gwydnwch gweithwyr ac undeb gyda’r bwriad o ysgogi, monitro a datblygu ymhellach y prosesau adnewyddu sydd ar y gweill.
Gallwch chi brynu fersiwn argraffedig o’r llyfr ar wefan Sefydliad Undebau Llafur Ewrop lle mae’r llyfr cyfan a’r holl benodau unigol hefyd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.
Credyd delwedd: PeopleImages trwy iStock.