Mae Rhifyn Arbennig o’r gyfres ffilmiau byrion, sef Mỳg Ymchwil, wedi’i gyhoeddi ar y testun ‘Sut mae cyflawni effaith a sicrhau newid polisi‘. Er mwyn dathlu cyhoeddi’r rhifyn hwn, mae’r gyfres lawn o ffilmiau Mỳg Ymchwil wedi’i hail-ryddhau gyda golygiadau newydd. Mae’r rhain ar gael i’w gwylio yma ar sianel YouTube Prifysgol Aberystwyth.
Mae Mỳg Ymchwil yn gyfres o fideos a gafodd ei chreu gan Dr Amy Sanders o Brifysgol Aberystwyth. Mae’n rhannu canfyddiadau ymchwil gyda llunwyr polisi’r llywodraeth ac ymarferwyr yn y trydydd sector. Mae’r ffilm ddiweddaraf hon ar gyfer academyddion sy’n ceisio sicrhau effaith polisi. Yr ymagwedd arloesol sydd wrth wraidd y ffilmiau byr hyn yw rhannu ymchwil gan ddefnyddio iaith briodol ac o fewn cyrraedd uwch-ymarferwyr prysur y gallan nhw eu gwylio yn ystod eu hegwyl goffi.
Mae’r ffilm Mỳg Ymchwil ddiweddaraf yn crynhoi’r ystod lawn o adnoddau soffistigedig sy’n dylanwadu ar bolisi a gaiff eu defnyddio’n effeithiol gan y trydydd sector i lunio polisïau a hybu cydraddoldeb yng Nghymru. Mae’n diweddu gyda chyfres o argymhellion ymarferol ar sut i sicrhau effaith polisi parhaus. Cafodd y gyfres ei threialu mewn digwyddiad hyfforddiant a drefnwyd gan Dr Victoria Winkler a’r Sefydliad Bevan, lle gwnaeth ymarferwyr blaenllaw o’r trydydd sector gyfrannu at y drafodaeth ynghylch sut i hogi datblygiad y gyfres.
Fe wnaeth mewnbwn gan gyfranogwyr arwain at welliannau i’r gyfres, megis gwell ciwiau gweledol i gyd-fynd â’r gair llafar, a defnydd clyfar o animeiddiad gwagio mỳg yng ngwaelod chwith y sgrin i ddangos pa mor bell ar hyd y ffilm ydych chi ar unrhyw adeg benodol. Cafodd y gyfres ei dangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad hyfforddiant effaith polisi i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â’r Ganolfan Deialog. Ymhlith sylwadau’r ymarferwyr mae’r canlynol:
“Gwych. Mae angen mwy o’r math hyn o beth arnon ni. Go brin y cawn ni wybod pa ymchwil sydd wedi digwydd.”
“Mae’r fideos yn ffordd ardderchog o rannu’r wybodaeth heb fod yn nawddoglyd. Mae’r clipiau bychain yn gwneud y fideos yn hawdd eu gwylio.”
“Diddorol iawn – llawer o wybodaeth mewn fformat cryno.”
“Fideos bach swynol i’w gwylio yn ystod amser cinio. Bydda i’n eu rhannu gyda chydweithwyr.”
“Mae’n ffordd dda o gyfathrebu, yn enwedig er mwyn hoelio sylw gweithwyr proffesiynol.”
Mae fersiwn Gymraeg o bob un o’r ffilmiau Mỳg Ymchwil gwreiddiol hefyd wedi’u cyhoeddi. Mae newidiadau eraill i’r gyfres wreiddiol yn cynnwys ychwanegu isdeitlau Saesneg er mwyn gwella hygyrchedd. Mae’r ffilmiau’n ymdrin â phynciau sy’n amrywio o lunio polisïau ar gydraddoldeb, cymhwyso cyfle cyfartal yn strwythurau’r llywodraeth, gwireddu croestoriadedd wrth lunio polisïau, deall cynrychiolaeth o ran cydraddoldeb, a mynd at wraidd cydberthnasau yn nhrydydd sector y llywodraeth.
Mae hyn oll wedi bod yn bosibl diolch i Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru. Fe’i cefnogwyd gan y Ganolfan Deialog ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n ceisio cefnogi arloesedd wrth gyfnewid gwybodaeth ar y cyd. Datblygwyd y fersiynau mwyaf diweddar gan Cara Rainbow, drwy ei gwaith yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.
Mae’r gyfres newydd o ffilmiau Mỳg Ymchwil yn cwmpasu gwaith ymchwil arall ar gymdeithas sifil WISERD sydd ar ddod. Cewch chi ragor o fanylion drwy gysylltu ag Amy Sanders.