Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cael ei lansio yn y Senedd


Welsh countryside with house in the background and stone wall with gate in the foreground.

Ar 10 Gorffennaf yn y Senedd, cynhaliwyd lansiad swyddogol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, sef Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig, gan nodi dechrau prosiect newydd fydd yn para tair blynedd. Bydd y prosiect yn defnyddio ymchwil ac arloesedd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru. Caiff y prosiect ei gynnal gan WISERD a’r Canolbwynt Dyfodol Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe’i ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Diben y prosiect yw cefnogi adfywio economaidd, twf cynhwysol a chynaliadwy, a lles yn y Gymru wledig, drwy ddod â llunwyr polisi, ymarferwyr a chymunedau ynghyd mewn rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth. Bydd y rhain yn cynnwys labordai arloesi, ymchwil weithredu dan arweiniad y gymuned, arolygon, prosiectau ymchwil byrion, dadansoddi a mapio data, ac ymgysylltu â’r cyhoedd – a bydd pob un o’r rhain yn ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg ac anghenion o ran tystiolaeth.

Mae’r dull cynhwysol hwn wedi’i lywio gan broses o ymgynghori ar raddfa fawr a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys gweithdai mewn cymunedau peilot, sydd wedi amlygu’r heriau allweddol sy’n wynebu’r genedl. Mae pedair prif thema wrth wraidd y prosiect, sef: ‘Adeiladu Economi Adfywiol’, ‘Cefnogi’r Llwybr at Sero Net’, ‘Grymuso Cymunedau i Adfer Diwylliant’ a ‘Gwella Lles yn ei Le’.

Yn ogystal ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Ymchwil Cymunedol a Chefn Gwlad (CCRI), bydd y prosiect hefyd yn cynnwys arbenigwyr o sefydliadau megis Together for Change, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Menter Antur Cymru, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW), Represent Us Rural a Sgema.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal dan gadeiryddiaeth yr Athro Mike Woods, Cyd-gyfarwyddwr WISERD, sy’n arwain y prosiect, a chafodd ei noddi gan Elin Jones AS. Roedd tua 70 o bobl o dros 40 o sefydliadau yn bresennol, gan gynnwys sawl Aelod o’r Senedd.

Meddai’r Athro Woods: “Mae saith egwyddor allweddol wrth wraidd ein hymagwedd: gweithio mewn partneriaeth, cyd-gynhyrchu, ymateb yn gadarnhaol i faterion sy’n codi, bod â dull o ganolbwyntio ar atebion, grymuso, bod yn gynhwysol, a bod yn hygyrch i’r cyhoedd.

“Rydyn ni am i’r data a’r canlyniadau a ddaw o’n hymchwil fod yn ddefnyddiol a chael eu defnyddio gan bawb. Caiff hyn ei wneud yn rhannol drwy’r Ganolfan Tystiolaeth Integredig Ar-lein ar gyfer Cymru Wledig, sef canolfan y mae’r tîm data WISERD yn ei datblygu. Bydd yn integreiddio data sy’n bodoli eisoes o ffynonellau amrywiol, a bydd yn ystorfa ar gyfer data a thystiolaeth a gesglir o’n rhaglen waith.”

 

Credyd delwedd: kodachrome25 trwy iStock.


Share