Gwleidyddiaeth Rasys Ceffylau: Ychwanegu Elfennau Gêm at Ymgysylltu Gwleidyddol


Screenshot of Horse Race Politics website

Mae Horse Race Politics (HRP) yn blatfform arloesol sy’n galluogi defnyddwyr i ragweld canlyniadau digwyddiadau gwleidyddol mewn cyd-destun cystadleuol ag elfennau gêm wedi’u hychwanegu ato. Mae HRP yn cael ei arwain gan ddau academydd yn WISERD, sef Dr Matthew Wall a Dr Louis Bromfield (ill dau o Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe), ar y cyd â Focus Games, sef partner masnachol sy’n arbenigo mewn dysgu seiliedig ar gemau.

Yn y bôn, mae HRP yn gwahodd unigolion i roi prawf ar eu craffter gwleidyddol drwy ragfynegi’r atebion i gwestiynau gwleidyddol o bwys, megis pa blaid fydd yn fuddugol yn yr etholiad nesaf, faint o bleidleiswyr a ragwelir neu pa mor debygol y bydd refferendwm yn cael ei alw.

Drwy droi dyfalu gwleidyddol yn broses weithredol a mesuradwy, mae HRP yn sicrhau bod pob un rhagfynegiad yn cyfrannu at sgôr sy’n cael ei diweddaru’n ddeinamig. Mae rhagolygon cynnar a chywir yn cael eu gwobrwyo’n arbennig, gan feithrin mantais gystadleuol sy’n annog ymgysylltu gwybodus a strategol.

Podlediad Horse Race Politics

Podlediad Horse Race Politics

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys cyfres o bodlediadau sy’n proffilio ac yn rhannu tueddiadau darogan ar gyfer etholiadau mawr. Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau 2024 oedd canolbwynt ein sylw’n fwyaf diweddar.

Mae dyluniad y platfform yn ymestyn y tu hwnt i ragfynegi syml. Mae’n cynnwys bwrdd yr arweinwyr lle gall cyfranogwyr weld ym mha safle ydyn nhw o’u cymharu â’u cyd-gyfranogwyr, proffiliau wedi’u personoli sy’n dangos llwyddiannau a hefyd system wobrwyo sy’n cynnig teitlau a gwelliannau gweledol i broffiliau. At ei gilydd, mae’r nodweddion hyn yn cyfrannu at ymdeimlad o gyflawniad a chynnydd, gan sicrhau ymgysylltu parhaus.

Gall defnyddwyr gymryd rhan mewn cwisiau rhyngweithiol i hogi eu gwybodaeth wleidyddol, cymryd rhan mewn trafodaethau ar borth HRP i rannu cipolygon a safbwyntiau a hefyd ennill pwyntiau drwy gyfranogi’n weithredol, a fydd yn datgloi nodweddion ychwanegol. Dyma eich gwahodd yn gynnes i fwrw golwg ar y platfform (a’r podlediadau) eich hun ar wefan Horse Race Politics.

Dr Matt Wall a Dr Louis Bromfield gyda thîm Focus Games

Dr Matt Wall a Dr Louis Bromfield gyda thîm Focus Games

Mae datblygu HRP wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth WISERD. Roedd sicrhau cyllid gan WISERD a chydweithio â nhw wedi galluogi sylfaenwyr y prosiect, Louis a Matt, i gyflwyno eu cysyniad cynnar yn ystod Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd gan WISERD, integreiddio Focus Games yn bartner datblygu a hefyd greu gwefan HRP ar y cyd â Focus Games Studio yn Glasgow.

Penllanw’r ymdrechion hyn oedd paratoi’r platfform i’w lansio cyn etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau 2024. Mae gweithgareddau hyrwyddo, gan gynnwys cyflwyniad gan Matt yn Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Bournemouth, wedi hybu’r prosiect ymhellach.

Wrth edrych tua’r dyfodol, y nod yw ehangu cwmpas y prosiect. Ymhlith y cynlluniau ar ystyried gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysgol er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd iau a hefyd roi sylw i etholiad Cymru 2026 a hynny’n gyfle arwyddocaol i ddwyn ynghyd yr elfennau hyn.


Rhannu