Yr Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria yw prif siaradwr Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025


Portrait of Irene HardhillRydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yw’r Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria.

Bydd prif gyflwyniad yr Athro Hardill yn trin a thrafod sut y gwnaeth pandemig COVID-19 ddangos rôl hanfodol cymdeithas sifil ac elusennau wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghenion heb eu diwallu. Bydd hefyd yn trafod ymchwil i weithredu gwirfoddol ledled y DU ac esblygiad hanesyddol cymdeithas sifil yn Lloegr.

Bydd yr Athro Hardill hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhyngddisgyblaethol ac arloesi methodolegol wrth ddeall a chefnogi cymdeithas sifil yn ystod cyfnodau o argyfwng.

Ymunodd yr Athro Hardill â Phrifysgol Northumbria yn 2010 yn Athro Polisi Cyhoeddus. Cyn hynny, bu’n Athro yn yr Ysgol i Raddedigion ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Mae ganddi arbenigedd penodol ym maes gwirfoddoli, yn ogystal â chyd-gynhyrchu gwybodaeth ar y cyd rhwng y sectorau gwirfoddol a chymunedol.

Mae ymchwil ddiweddar Irene wedi cael cefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ac mae’n cynnwys arwain prosiect ar ysgogi gweithredu gwirfoddol yn ystod pandemig COVID-19. Yn ddiweddar, mae hi wedi cwblhau gwerthusiad o effaith COVID-19 ar arloesi methodolegol ar gyfer ESRC.

Yn ogystal â rheoli rhestr hir o brosiectau a gafodd eu hariannu gan ESRC, mae’r Athro Hardill wedi rheoli prosiectau gan noddwyr eraill, gan gynnwys yr Academi Brydeinig, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Age UK, Uchel Gomisiwn Canada a Llywodraeth Ffrainc.

Mae Irene wedi cyhoeddi’n helaeth am newidiadau ym myd gwaith ym mhob ystyr y gair, boed hynny’n waith â thâl neu waith di-dâl, yn y cartref ac yn y gymuned.

Gobeithiwn y byddwch chi’n ymuno â ni i groesawu’r Athro Irene Hardill ac yn cadw eich lle yng Nghynhadledd Flynyddol WISERD eleni, a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf.


Rhannu