Bydd y prosiect hwn yn edrych ar effaith gweithgareddau gwyliadwriaeth ddigidol a gweithgareddau gwyliadwriaeth eraill ar gymunedau a grwpiau Teithwyr Sipsiwn a Roma mudol. Bydd yr ymchwil yn ystyried arferion gwyliadwriaeth allweddol y wladwriaeth sy’n effeithio ar y cymunedau hyn ledled Ewrop gyda ffocws penodol ar Gymru a Lloegr. Nod y prosiect yw ehangu gwybodaeth ynghylch trais yr heddlu a chasineb gwrth-Roma i gwmpasu ffurfiau mwy anweledig o blismona sy’n codi trwy AI a thechnolegau digidol. Ochr yn ochr â hyn, bydd y prosiect yn asesu cyfranogiad sefydliadau cymdeithas sifil Teithwyr Sipsiwn a Roma yn strategaethau integreiddio’r UE a chenedlaethol (2020–2030), gan gynnwys dadansoddi polisi a monitro torri hawliau.
Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus / Hawliau, Ffoaduriaid a Chymunedau wedi’u Hymyleiddio