Bydd y prosiect hwn yn archwilio rôl gyfoes sefydliadau cymdeithas sifil mewn eiriolaeth dros hawliau a darpariaeth lles i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Drwy ddadansoddiad cymharol o astudiaethau achos o Gymru, yr Alban a Lloegr, bydd cyfweliadau â sefydliadau sy’n ymwneud â chefnogi cymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn nodi materion allweddol, meysydd cynnydd a heriau yn y dyfodol er mwyn canfod gwersi trosglwyddadwy ac arfer gorau sy’n gysylltiedig â chefnogaeth sefydliadau cymdeithas sifil i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.