Mae llesiant yn flaenoriaeth polisi graidd yng Nghymru dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Sefydlodd Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ym mhob ardal awdurdod lleol gyda chyfrifoldeb statudol i gydlynu gwaith asesu a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r ymchwil yn cynnig persbectif newydd ar ddatblygu rhanbarthol drwy gyfuno’r polisïau hyn sy’n seiliedig ar leoedd, ac archwilio a yw’r ymdrechion yng Nghymru i hyrwyddo llesiant yn cael effaith ar yr elfennau a ddiffinnir yn Codi’r Gwastad, ac yn sgil hynny ar gynhyrchiant, a sut mae hynny’n digwydd. Mae’n holi beth yw effaith BGCau drwy werthuso ymdrechion lleol BGCau de Cymru gyda chyfweliadau a dadansoddiad o 50 o ddangosyddion llesiant.
Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus / Economïau Lleol ac Arloesiadau’n Seiliedig ar Le