Bydd yr ymchwil hon yn edrych ar benderfyniadau myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a sut maent yn pontio i addysg uwch ynghyd â’u disgwyliadau a’u dyheadau yn dilyn astudiaethau israddedig. Bydd yn archwilio i ba raddau y mae ystyriaethau cyfleoedd cyflogaeth mewn cyd-destunau lleol a chenedlaethol yn llywio penderfyniadau a phontio i AU, a dyheadau ar gyfer gwaith, astudio a bywyd ar ôl graddio. Bydd hefyd yn archwilio i ba raddau y mae hunaniaethau cenedlaethol neu ddiwylliannol, neu ymdeimlad o berthyn, yn fframio pontio addysgol pobl ifanc i’r brifysgol a thu hwnt. Rhoddir sylw arbennig i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol megis myfyrwyr â phrofiad o ofal.
Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus / Economïau Lleol ac Arloesiadau’n Seiliedig ar Le