Un o’r heriau craidd i economïau lleol yw trawsnewid i economïau cynaliadwy a gwyrdd. Gan weithio gyda Chanolfan Amgylchedd Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, byddwn yn mapio ac yn asesu arloesedd a gyd-gynhyrchwyd mewn economïau lleol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd ac ynni cynaliadwy, atal llifogydd, ymatebion i lygredd, rheoli tir ac ati. Bydd hyn yn cynnwys gwell dealltwriaeth o bwy sy’n ymwneud â chyd-gynhyrchu, pa mor llwyddiannus yw arloesedd cyd-gynhyrchu o’r fath, sut mae’n fuddiol i gymunedau lleol a lleoedd, a sut mae gwahanol randdeiliaid yn ei ddeall.
Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus / Economïau Lleol ac Arloesiadau’n Seiliedig ar Le