Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu dangosfyrddau rhyngweithiol ac offer ar y we sy’n galluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan yn y broses o gynllunio a gwerthuso gwasanaethau trafnidiaeth. Bydd yr ymchwil yn dangos sut y gellir defnyddio technolegau ffynhonnell agored i gynllunio rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus ac ymchwilio i oblygiadau gofodol mynediad at safleoedd meddygol, cymdeithasol a chyflogaeth. Mae’r prosiect yn cyfrannu at raglen ehangach WISERD o ymchwil Cysylltedd a Hygyrchedd drwy ymchwilio i rôl trafnidiaeth wrth wella mynediad at gyfleoedd.

 

Pobl, Lleoedd a’r Maes CyhoeddusLab Data Trawstoriadol WISERD